Cyn yr Ail Ryfel Byd, cynhaliwyd Eisteddfod fach yng Nghapel y Babell ar fynydd Epynt ac rwy’n cofio pan o’n i’n blentyn, aelodau’r teulu yn mynychu’r Eisteddfod honno.
Roedd llawer o bobl ifanc yn byw ar y ffermydd oedd yn bodoli ar fynydd Epynt ar y pryd ac fe fyddent yn cerdded i’r Eisteddfod mewn grŵp mawr gyda’i gilydd i’r Eisteddfod.
Ar y ffordd adref, roedd rhaid galw yn ‘Gwybedog’, lle roedd swper hwyr yn eu disgwyl wedi ei goginio gan Mrs Davies a bob blwyddyn byddai ‘Sparip’ (spare rib) ar y fwydlen. Roedd hi’n amlwg bod diwrnod lladd mochyn newydd fod. Roedd y swper yn tu hwnt o flasus, mae’n debyg.
Y Parch William Jones, Pentrefelin oedd gweinidog Capel y Babell ac ef, fel un o’r arweinyddion yr Eisteddfod, oedd yn gorfod cadw trefn.
Cofiaf un flwyddyn mai un o’r tasgau gosod oedd cyfansoddi brawddeg yn dechrau gyda’r llythyren ‘B’. A dyma un cynnig a ddaeth i law:
‘Bwytodd Buwch Brynmaharen Bais Binc Betsi Brynmelyn Bron Bob Bripsyn Bach!’
Roedd ‘Brynmaharen’ a ‘Brynmelyn’ yn enwau ar ffermydd ar Epynt ac roedd yna ‘Betsi’ yn byw ym Mrynmelyn yn y cyfnod.
Wedi i’r fyddin gymryd perchnogaeth o fynydd Epynt yn yr 1940au, daeth yr Eisteddfod yng Nghapel y Babell i ben, wrth gwrs.