Fel y gwyddom roedd hi’n arferiad i gynnal Eisteddfod bron ym mhob neuadd a chapel yng nghefn gwlad ‘slawer dydd a deuai tyrfa gref ynghyd naill ai i fwynhau’r adloniant neu i gystadlu.
Un enghraifft o hyn oedd Capel y Wern, Llanwrtyd – adeilad bach rhyw filltir o Lanwrtyd yw’r Wern erbyn hyn ac yn gartref i deulu lleol ond a oedd ar un adeg yn chwaer eglwys i Gapel yr Annibynwyr, Llanwrtyd – lle lleolir Canolfan Dreftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r cylch erbyn hyn.
Gweler yma gopi o drwydded i gynnal Eisteddfod yng Nghapel y Wern nôl ym 1932 – dros 90 o flynyddoedd bellach ers hynny.
Fel y gwelir, y Parch D.E. Williams, y Mans, Llanwrtyd oedd wedi arwyddo’r ffurflen – ef oedd y gweinidog yn Llanwrtyd ar yr adeg honno. Fe’i hadnabyddir fel ‘D.E.Williams, Pontyberem’ (Y Parch David Edmund Williams B.A., B.D.) ac ef wnaeth gyfansoddi geiriau’r emyn:
‘Cofiwn am y dewr arloeswyr
A fu’n tramwy yma gynt……..’
Dyma oedd un o’r emynau a ganwyd yng ngwasanaeth dadgorffori Capel yr Annibynwyr, Llanwrtyd nôl yn Chwefror 2009.
Yn ôl y sôn, un o gystadlaethau’r Eisteddfod oedd ‘Parti canu’ ac mae’n debyg i barti bach ‘Parti Pantybrwyn’ oedd yn cynnwys bechgyn lleol gystadlu o dan arweiniad Mr John Price, Berthlwyd, Beulah, Llanwrtyd (a fu farw ar ddechrau’r 1940au).
Yn ystod ei fywyd, bu Mr John Price yn ymweld ag Ysgol Llwynmadog, Beulah, Llanwrtyd i ddysgu Sol-ffa i’r disgyblion gan ddefnyddio ‘fforch draw’ yn unig.