Cynefin y Cardi

Disgyblion ysgol Ceredigion yn troi chwedlau, straeon ac arwyr lleol yn gomig a straeon i’w gwefan fro

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar y gorwel. Yn wir, 50 diwrnod cwmws sydd i fynd!

Dros yr wythnosau nesaf, bydd y Siarter Iaith yng Ngheredigion yn rhoi blas ar brosiect fydd yn cyrraedd ei benllanw yn yr Eisteddfod yn Nhregaron, sef Cynefin y Cardi.

Bydd comig llawn chwedlau, straeon, arwyr a lleoliadau eiconig Ceredigion yn cael ei gynhyrchu, a’r cyfan wedi’i greu gan ddisgyblion pob ysgol yn y sir.

“Ymfalchïwn fod pob ysgol yn y sir wedi bod yn rhan o’r prosiect addysgol a chreadigol hwn,” medd Anwen Eleri, sy’n cydlynu’r ymdrech.

Mi fydd Cynefin y Cardi yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.

Mi fydd copïau o’r comig ar gael ym Mhentre’ Ceredigion ar faes yr Eisteddfod, a hefyd mi allwch weld y gwaith ar baneli metel yn cael eu harddangos ar wal fawr yn yr ardal allanol ym Mhentre’ Ceredigion. Yn dilyn yr Eisteddfod mi fydd y paneli yn mynd yn ôl i’r ysgolion fel gellid arddangos y gwaith yn y gymuned leol.

Medd Cisp Multimedia:

“Braint o’r mwyaf oedd darparu gweithdai yn ddiweddar i Ysgolion ar draws Ceredigion gyda’r nod o ddylunio paneli comig yn seiliedig ar y thema Cynefin, yn barod i’w harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ar ôl dewis testun, bu’r plant wrthi’n brysur yn archwilio, ysgrifennu ffeithiau neu stori cyn creu stori fwrdd a darlunio panel comig.

Roedd y plant yn dysgu ystod eang o sgiliau yn gysylltiedig â dylunio a darlunio, megis graddliwio, braslunio a theipograffeg, cyn mynd ati i weithio mewn grwpiau i ddylunio panel comig, ac mae rhaid i mi ddweud roedd gwaith o’r safon uchaf!

Pleser oedd troi’r gwaith yn ddigidol gan fod yr ysgolion i gyd mor frwdfrydig am y prosiect, ac yr ydym ni fel cwmni wedi mwynhau pob eiliad.”

Felly, er mwyn cael blas o’r hyn sydd yn y comig, bydd pob ysgol yn cyhoeddi stori ar eu gwefan fro.

Cadwch lygad ar Caron360 (gwefan fro ardal Tregaron), Clonc360 (ardal Llanbed), BroAber360 (gogledd y sir) a Bro360 (pob ardal arall!) dros yr wythnosau nesaf, gan y bydd pob ysgol yn datgelu rhan fach o’u prosiect nhw.