Eisteddfod Ceredigion 2022: pwy yw’r cyn-enillwyr lleol?

Cyfle i gasglu enwau’r Cardis sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes Prifardd yn eich pentre?

Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?

Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?

Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.

Pa brif wobrau?

Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!

Pa Gardis?

Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…

Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

18:41

Golygydd Golwg

Yn draddodiadol fe fyddai llenorion naill ai yn ysgrifennu rhyddiaith neu farddoniaeth a phrin fyddai’r enghreifftiau o ymaflyd â’r ddau, er nad oes unrhyw resymeg i hynny.

Nifer fechan sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y prif gystadlaethau rhyddiaith a barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond un o’r rhain yw’r newyddiadurwr o Lanwnnen a chyn-olygydd Golwg, Dylan Iorwerth. Pryddest er cof am ffrind iddo a enillodd iddo Goron Eisteddfod Llanelli a’r Cylch ar droad y ganrif. Y testun yn y flwyddyn 2000 oedd ‘Tywod’.

Yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau (2005) a gynhaliwyd yn y Faenol, cododd i hawlio’r Fedal Lenyddiaeth am ei gyfrol ‘Darnau’. Roedd 20 wedi cystadlu am y fedal y flwyddyn honno.

Yn Eisteddfod Bro Morgannwg, yn Llandŵ yn 2012 testun y Gadair oedd ‘Llanw’. Ac yno cyflawnodd ei goron driphlyg gyda’i awdl er cof am ei dad.

15:03

Mwy o enillwyr cadeiriau o Geredigion…

1948 – Penybont-ar-Ogwr – Dewi Emrys, ger Cei Newydd

1946 – Aberpennar – Geraint Bowen, ger Cei Newydd

1944 – Llandybie – D Lloyd Jenkins, Tregaron

1943 – Bangor – Dewi Emrys, ger Cei Newydd

1936 – Abergwaun – Simon B Jones, Cilie

1931 – Bangor – Gwenallt, Aberystwyth

1930 – Llanelli – Dewi Emrys, ger Cei Newydd

1929 – Lerpwl – Dewi Emrys, ger Cei Newydd

1926 – Abertawe – Gwenallt, Aberystwyth

1925 – Pwllheli – Dewi Morgan, Llandre

1923 – Yr Wyddgrug – Cledlyn Davies, Cwrtnewydd

1919 – Corwen, Cledlyn Davies, Cwrtnewydd

1915 – Bangor – T H Parry-Williams, Aberystwyth

1913 – Y Fenni – T J Thomas (Sarnicol), Bwlchygroes

1912 – Wrecsam – T H Parry-Williams, Aberystwyth

1909 – Llundain – T Gwynn Jones, Aberystwyth

1908 – Llangollen – J J Williams, Llandre

1906 – Caernarfon – J J Williams, Llandre

1902 – Bangor – T Gwynn Jones, Aberystwyth

18:28

MEDALAU LU I GEREDIGION! 

Y Fedal Ryddiaith

1946 Dafydd Jenkins, Y Nofel

1951 Islwyn Ffowc Elis, Cyn Oeri’r Gwaed

1974 Dafydd Ifans, Eira Gwyn yn Salmon

1976 Marged Pritchard, Nid Mudan mo’r mor

1977 R Gerallt Jones, Triptych

1979 R Gerallt Jones, Cafflogion

1985 Meg Elis, Cyn daw’r gaeaf

1993 Mihangel Morgan, Dirgel Ddyn

2005 Dylan Iorwerth, Darnau

2008 Mererid Hopwood, O Ran

2014 Lleucu Roberts, Saith Oes Efa

2016 Eurig Salisbury, Cai

2019 Rhiannon Ifans, Ingrid

2021 Lleucu Roberts, Y Stori Orau

18:13

TLWS Y DDRAMA

1969 John R Evans, Y Briodas Aur

1981 John R Evans, Brawd am Byth

2015 Wyn Mason, Rhith Gân

2017 Heiddwen Tomos, Milwr yn y Meddwl

18:03

AR EU PEN FO’R GORON!

1924 Pontypwl: Prosser Rhys, Atgof

1926 Abertawe: Dewi Emrys, Rhigymau’r Ffordd Fawr

1933 Wrecsam: Simon B Jones, Rownd yr Horn

1936 Abergwaun: David Jones, Blaenplwyf, Yr Anialwch

1937 Machynlleth: J M Edwards, Y Pentref

1941 Hen Golwyn: J M Edwards, Peiriannau

1944 Llandybie: J M Edwards, Yr Aradr

1955 Pwllheli: W J Gruffydd (Elerydd), Ffenestri

1960 Caerdydd: W J Gruffydd (Elerydd), Unigedd

1961 Rhos: L Haydn Lewis, Ffoadur

1966 Aberafan: Dafydd Jones, Ffair-rhos, Y Clawdd

1967 Y Bala: Eluned Phillips, Corlannau

1968 Y Barri: L Haydn Lewis, Meini

1977 Wrecsam: Donald Evans, Hil

1980 Dyffryn Lliw: Donald Evans, Lleisiau

1983 Ynys Môn: Eluned Phillips, Clymau

1984 Llanbed: John Roderick Rees, Llygaid

1985 Y Rhyl: John Roderick Rees, Glannau

1992 Aberystwyth: Cyril Jones, Cyfrannu

1996 Bro Dinefwr: Dafydd John Pritchard, Olwynion

1998 Bro Ogwr: Emyr Lewis, Rhyddid

2000 Llanelli: Dylan Iorwerth, Tywod

2003 Maldwyn: Mererid Hopwood, Gwreiddiau

2004 Casnewydd: Jason Walford Davies, Egni

2008 Caerydydd: Hywel M. Griffiths, Stryd Pleser

2009 Y Bala: Ceri Wyn Jones, Yn y Gwaed

17:28

Prifardd y dwbwl dwbwl

Ar raglen Dei Tomos nos Sul 27 Mawrth cafwyd sgwrs ddiddorol rhwng Dei Tomos a’r Prifardd Donald Evans, Talgarreg, unig Brifardd Dwbwl Dwbwl Ceredigion a dim ond un o dri, gyda’r Prifeirdd T H Parry-Williams ac Alan Llwyd, sydd wedi cyflawni’r gamp.

Enillodd ei Gadair a’i Goron gyntaf yn Eisteddfod Wrecsam a’r Cylch yn 1977. Y testun y flwyddyn hono oedd ‘Hil’ gyda ‘Llygredd’ yn destun y Gadair. O wrando ar ei sgwrs nos Sul sylweddolwyd y byddai’r ddau destun yma yn apelio’n fawr.

Ail-adroddodd y gamp yn Nyffryn Lliw yn 1980 pan enillodd y Goron ar y dydd Mawrth am ei Ddilyniant o Gerddi a’r Gadair ar y dydd Iau am gerdd ar y testun ‘Y Ffwrnais’. Roedd yn ymhyfrydu yn y ffaith fod y tri beirniad yn gytun ar bob achlysur.

Yn ystod y cyfnod clo mae wedi cyhoeddi tri llyfr gan gynnwys hunangofiant dan y teitl ‘Trydan’ a dwy gyfrol o farddoniaeth sef ‘Telynegu’r Canu Caeth’ a ‘Sonede Llafar’.

16:52

Rhuban Glas Offerynnol 

Dan 16 oed

2012 Nest Jenkins (telyn)

2013 Mared Pugh Evans (telyn)

16-19 oed

1978 Gwawr Owen (piano)

Dena Price
Dena Price

Rhuban Glas Offerynnol Agored
Dros 19 oed
Terence Lloyd 1971

Mae’r sylwadau wedi cau.

16:47

Dwy Gadair ac un Goron i Ceri

Enillodd Ceri Wyn Jones ei Gadair Genedlaethol gyntaf yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau yn 1997 am ei Awdl ‘Gwaddol’.

Ail-adroddodd y gamp yn Eisteddfod Sir Gâr (2014) pan enillodd y Gadair am Awdl ar y testun ‘Lloches’.

Rhwng y ddwy enillodd Goron eisteddfod Maldwyn a’r Cyffiniau a gynhaliwyd yn Y Bala yn 2009 gyda’i bryddest ‘Yn y Gwaed’.

16:43

Medal Syr T H Parry Williams

1980 Marie James, Llangeitho

2019 Falyri Jenkins, Talybont

16:43

Diolch i di-enw am anfon rhestr faith o enillwyr cadeiriau o Geredigion.

Fyddech chi’n credu bod cymaint â hyn o Gardis yn go-lew am farddoni?!

2021 – Eisteddfod AmGen – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

2015 – Maldwyn a’r Gororau – Hywel Griffiths, Aberystwyth

2014 – Sir Gâr – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

2012 – Bro Morgannwg – Dylan Iorwerth, Llanwnnen

2004 – Casnewydd a’r cylch – Huw Meirion Edwards, Llandre

1999 – Ynys Môn – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

1997 – Meirion a’r Cyffiniau – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

1994 – Nedd a’r cyffiniau – Emyr Lewis

1992 – Ceredigion (Aberystwyth) – Idris Reynolds, Brynhoffnant

1989 – Dyffryn Conwy – Idris Reynolds, Brynhoffnant

1980 – Dyffryn Lliw – Donald Evans, Talgarreg

1977 – Wrecsam a’r cylch – Donald Evans, Talgarreg

1966 – Aberafan a’r cylch – Dic jones, Blaenannerch

1959 – Caernarfon a Dosbarth Gwyrfai – T Llew Jones, Coed-y-bryn

1958 – Glyn Ebwy a’r cylch – T Llew Jones, Coed-y-bryn

1955 – Pwllheli a’r cylch – G Ceri Jones, Rhydlewis

ac mae ’na fwy…