Oes Prifardd yn eich pentre?
Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?
Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?
Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.
Pa brif wobrau?
Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!
Pa Gardis?
Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…
Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.
‘Y Daniel’
Cystadleuaeth gymharol ddiweddar yw Gwobr Goffa Daniel Owen sydd erbyn hyn wedi cael ei hanwylo gyda’r enw ‘Y Daniel’. Dyfernir hon bob blwyddyn, ers 1978, am ‘nofel gyda llinyn storȉol cryf’. Ynghyd â swm sylweddol o arian mae’r enillydd hefyd yn derbyn Medal Goffa. Yn ôl y gellir gweld mae saith o’r enillwyr gyda chysylltiad cryf gyda’r sir os nad yn byw yng Ngheredigion bellach.
Cofir i Lleucu Roberts ennill Y Daniel yn AmGen gan wneud y dwbwl gyda’r Fedal Ryddiaith ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach. Efallai na fydd pawb yn cofio iddi gyflawni yr un gamp yn Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn 2014.
Gwelir fod Robat Gruffudd wedi ennill y Fedal ddwywaith yn 1986 ac yn 2012. Enillodd Fflur Dafydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Abertawe a’r Cylch yn 2006 gan ddilyn gyda Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau yn 2009.
Y rhestr gyflawn
1986 – Abergwaun – Robat Gruffudd
2008 – Caerdydd – Ifan Morgan Jones
2009 – Meirion a’r Cyffiniau – Fflur Dafydd
2011 – Wrecsam a’r Fro – Daniel Davies
2012 – Bro Morgannwg – Robat Gruffudd
2014 – Sir Gaerfyrddin – Lleucu Roberts
2021 – AmGen – Lleucu Roberts
Dylan Iorwerth yn ennill
- y goron yn Llanelli 2000
- y Fedal Ryddiaith yn Eryri a’r Cyffiniau yn 2005
- y gadair ym Mro Morgannwg 2012
Elin Williams yn ennill Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn y Bala 2009.
Heiddwen Tomos yn ennill y Fedal Ddrama yn Sir Fôn 2017.
Golygydd Golwg
Yn draddodiadol fe fyddai llenorion naill ai yn ysgrifennu rhyddiaith neu farddoniaeth a phrin fyddai’r enghreifftiau o ymaflyd â’r ddau, er nad oes unrhyw resymeg i hynny.
Nifer fechan sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y prif gystadlaethau rhyddiaith a barddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond un o’r rhain yw’r newyddiadurwr o Lanwnnen a chyn-olygydd Golwg, Dylan Iorwerth. Pryddest er cof am ffrind iddo a enillodd iddo Goron Eisteddfod Llanelli a’r Cylch ar droad y ganrif. Y testun yn y flwyddyn 2000 oedd ‘Tywod’.
Yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau (2005) a gynhaliwyd yn y Faenol, cododd i hawlio’r Fedal Lenyddiaeth am ei gyfrol ‘Darnau’. Roedd 20 wedi cystadlu am y fedal y flwyddyn honno.
Yn Eisteddfod Bro Morgannwg, yn Llandŵ yn 2012 testun y Gadair oedd ‘Llanw’. Ac yno cyflawnodd ei goron driphlyg gyda’i awdl er cof am ei dad.
Mwy o enillwyr cadeiriau o Geredigion…
1948 – Penybont-ar-Ogwr – Dewi Emrys, ger Cei Newydd
1946 – Aberpennar – Geraint Bowen, ger Cei Newydd
1944 – Llandybie – D Lloyd Jenkins, Tregaron
1943 – Bangor – Dewi Emrys, ger Cei Newydd
1936 – Abergwaun – Simon B Jones, Cilie
1931 – Bangor – Gwenallt, Aberystwyth
1930 – Llanelli – Dewi Emrys, ger Cei Newydd
1929 – Lerpwl – Dewi Emrys, ger Cei Newydd
1926 – Abertawe – Gwenallt, Aberystwyth
1925 – Pwllheli – Dewi Morgan, Llandre
1923 – Yr Wyddgrug – Cledlyn Davies, Cwrtnewydd
1919 – Corwen, Cledlyn Davies, Cwrtnewydd
1915 – Bangor – T H Parry-Williams, Aberystwyth
1913 – Y Fenni – T J Thomas (Sarnicol), Bwlchygroes
1912 – Wrecsam – T H Parry-Williams, Aberystwyth
1909 – Llundain – T Gwynn Jones, Aberystwyth
1908 – Llangollen – J J Williams, Llandre
1906 – Caernarfon – J J Williams, Llandre
1902 – Bangor – T Gwynn Jones, Aberystwyth
MEDALAU LU I GEREDIGION!
Y Fedal Ryddiaith
1946 Dafydd Jenkins, Y Nofel
1951 Islwyn Ffowc Elis, Cyn Oeri’r Gwaed
1974 Dafydd Ifans, Eira Gwyn yn Salmon
1976 Marged Pritchard, Nid Mudan mo’r mor
1977 R Gerallt Jones, Triptych
1979 R Gerallt Jones, Cafflogion
1985 Meg Elis, Cyn daw’r gaeaf
1993 Mihangel Morgan, Dirgel Ddyn
2005 Dylan Iorwerth, Darnau
2008 Mererid Hopwood, O Ran
2014 Lleucu Roberts, Saith Oes Efa
2016 Eurig Salisbury, Cai
2019 Rhiannon Ifans, Ingrid
2021 Lleucu Roberts, Y Stori Orau
TLWS Y DDRAMA
1969 John R Evans, Y Briodas Aur
1981 John R Evans, Brawd am Byth
2015 Wyn Mason, Rhith Gân
2017 Heiddwen Tomos, Milwr yn y Meddwl
AR EU PEN FO’R GORON!
1924 Pontypwl: Prosser Rhys, Atgof
1926 Abertawe: Dewi Emrys, Rhigymau’r Ffordd Fawr
1933 Wrecsam: Simon B Jones, Rownd yr Horn
1936 Abergwaun: David Jones, Blaenplwyf, Yr Anialwch
1937 Machynlleth: J M Edwards, Y Pentref
1941 Hen Golwyn: J M Edwards, Peiriannau
1944 Llandybie: J M Edwards, Yr Aradr
1955 Pwllheli: W J Gruffydd (Elerydd), Ffenestri
1960 Caerdydd: W J Gruffydd (Elerydd), Unigedd
1961 Rhos: L Haydn Lewis, Ffoadur
1966 Aberafan: Dafydd Jones, Ffair-rhos, Y Clawdd
1967 Y Bala: Eluned Phillips, Corlannau
1968 Y Barri: L Haydn Lewis, Meini
1977 Wrecsam: Donald Evans, Hil
1980 Dyffryn Lliw: Donald Evans, Lleisiau
1983 Ynys Môn: Eluned Phillips, Clymau
1984 Llanbed: John Roderick Rees, Llygaid
1985 Y Rhyl: John Roderick Rees, Glannau
1992 Aberystwyth: Cyril Jones, Cyfrannu
1996 Bro Dinefwr: Dafydd John Pritchard, Olwynion
1998 Bro Ogwr: Emyr Lewis, Rhyddid
2000 Llanelli: Dylan Iorwerth, Tywod
2003 Maldwyn: Mererid Hopwood, Gwreiddiau
2004 Casnewydd: Jason Walford Davies, Egni
2008 Caerydydd: Hywel M. Griffiths, Stryd Pleser
2009 Y Bala: Ceri Wyn Jones, Yn y Gwaed
Prifardd y dwbwl dwbwl
Ar raglen Dei Tomos nos Sul 27 Mawrth cafwyd sgwrs ddiddorol rhwng Dei Tomos a’r Prifardd Donald Evans, Talgarreg, unig Brifardd Dwbwl Dwbwl Ceredigion a dim ond un o dri, gyda’r Prifeirdd T H Parry-Williams ac Alan Llwyd, sydd wedi cyflawni’r gamp.
Enillodd ei Gadair a’i Goron gyntaf yn Eisteddfod Wrecsam a’r Cylch yn 1977. Y testun y flwyddyn hono oedd ‘Hil’ gyda ‘Llygredd’ yn destun y Gadair. O wrando ar ei sgwrs nos Sul sylweddolwyd y byddai’r ddau destun yma yn apelio’n fawr.
Ail-adroddodd y gamp yn Nyffryn Lliw yn 1980 pan enillodd y Goron ar y dydd Mawrth am ei Ddilyniant o Gerddi a’r Gadair ar y dydd Iau am gerdd ar y testun ‘Y Ffwrnais’. Roedd yn ymhyfrydu yn y ffaith fod y tri beirniad yn gytun ar bob achlysur.
Yn ystod y cyfnod clo mae wedi cyhoeddi tri llyfr gan gynnwys hunangofiant dan y teitl ‘Trydan’ a dwy gyfrol o farddoniaeth sef ‘Telynegu’r Canu Caeth’ a ‘Sonede Llafar’.