Eisteddfod Ceredigion 2022: pwy yw’r cyn-enillwyr lleol?

Cyfle i gasglu enwau’r Cardis sydd wedi ennill prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes Prifardd yn eich pentre?

Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?

Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?

Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.

Pa brif wobrau?

Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!

Pa Gardis?

Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…

Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.

16:52

Rhuban Glas Offerynnol 

Dan 16 oed

2012 Nest Jenkins (telyn)

2013 Mared Pugh Evans (telyn)

16-19 oed

1978 Gwawr Owen (piano)

Dena Price
Dena Price

Rhuban Glas Offerynnol Agored
Dros 19 oed
Terence Lloyd 1971

Mae’r sylwadau wedi cau.

16:47

Dwy Gadair ac un Goron i Ceri

Enillodd Ceri Wyn Jones ei Gadair Genedlaethol gyntaf yn Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau yn 1997 am ei Awdl ‘Gwaddol’.

Ail-adroddodd y gamp yn Eisteddfod Sir Gâr (2014) pan enillodd y Gadair am Awdl ar y testun ‘Lloches’.

Rhwng y ddwy enillodd Goron eisteddfod Maldwyn a’r Cyffiniau a gynhaliwyd yn Y Bala yn 2009 gyda’i bryddest ‘Yn y Gwaed’.

16:43

Medal Syr T H Parry Williams

1980 Marie James, Llangeitho

2019 Falyri Jenkins, Talybont

16:43

Diolch i di-enw am anfon rhestr faith o enillwyr cadeiriau o Geredigion.

Fyddech chi’n credu bod cymaint â hyn o Gardis yn go-lew am farddoni?!

2021 – Eisteddfod AmGen – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

2015 – Maldwyn a’r Gororau – Hywel Griffiths, Aberystwyth

2014 – Sir Gâr – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

2012 – Bro Morgannwg – Dylan Iorwerth, Llanwnnen

2004 – Casnewydd a’r cylch – Huw Meirion Edwards, Llandre

1999 – Ynys Môn – Gwenallt Llwyd Ifan, Tal-y-bont

1997 – Meirion a’r Cyffiniau – Ceri Wyn Jones, Aberteifi

1994 – Nedd a’r cyffiniau – Emyr Lewis

1992 – Ceredigion (Aberystwyth) – Idris Reynolds, Brynhoffnant

1989 – Dyffryn Conwy – Idris Reynolds, Brynhoffnant

1980 – Dyffryn Lliw – Donald Evans, Talgarreg

1977 – Wrecsam a’r cylch – Donald Evans, Talgarreg

1966 – Aberafan a’r cylch – Dic jones, Blaenannerch

1959 – Caernarfon a Dosbarth Gwyrfai – T Llew Jones, Coed-y-bryn

1958 – Glyn Ebwy a’r cylch – T Llew Jones, Coed-y-bryn

1955 – Pwllheli a’r cylch – G Ceri Jones, Rhydlewis

ac mae ’na fwy…

16:34

Côr yr Ŵyl

2010 Bois Ysgol Gerdd Ceredigion

16:29

Gwobr Goffa Osborne Roberts – y Rhuban Glas i gantorion dan 25 oed

Carol Davies

Angela Rogers Davies

Ifor Lloyd

1980 Huw Rhys-Evans, Tregaron

1974 Meinir Jones Williams

2000 Robyn Lyn Evans, Pontrhydygroes

2003 Gareth Huw John, Llanarth

2004 Gwawr Edwards, Bethania

2006 Rhian Lois, Pontrhydygroes

Dafydd Peredur Evans
Dafydd Peredur Evans

Delyth H E yn ychwanegu :
Teifryn Rees 1961
Bethan Dudley
Carol Davies 1966

Mae’r sylwadau wedi cau.

16:27

Llwyd o’r Bryn – Elin Garn. Ddim yn cofio pa flwyddyn!

16:23

Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn

1978/1982 Sian Teifi

2009 Elin Williams

Elin Williams
Elin Williams

A Meryl Mererid o Ddyffryn Aeron. Llwyd o’r Bryn 2003

Mae’r sylwadau wedi cau.

16:13

Diolch i Prydwen Elfed Owens am holl wybodaeth Gwobr Goffa Ruth Herbert Lewis – Rhuban Glas yr adran canu gwerin –

1978 J. Eirian Jones (Mae cyfeiriad post Cwmann yn Llanbed’!)

1990 Delyth Medi

1991 Helen Medi

1992 Delyth Medi

1995 Caryl Ebenezer

2005 Gregory Vearey-Roberts

2007 Trevor Pugh

2010 Dafydd Jones

2011 Trevor Pugh

2014 Gregory Vearey-Roberts

Sian Thomas
Sian Thomas

1993 Llanelwedd. Caryl Glyn, Felinfach

Mae’r sylwadau wedi cau.

16:12

Ysgoloriaeth W Towyn Roberts

1982 Mari Ffion Williams

1984 Aneurin Hughes

1993 Elen Môn

1994 Aled Hall

2007 Gwawr Edwards

2009 Catrin Aur