Ingrid oedd y teitl y nofel!
Oes Prifardd yn eich pentre?
Dysgwr y flwyddyn yn y dalgylch?
Yw’ch cymydog wedi ennill Rhuban Glas?
Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r sir eleni, dyma gyfle heddiw i gasglu enwau’r holl Gardis sydd wedi ennill prif wobrau’r brifwyl.
Pa brif wobrau?
Cadair, coron, medal wyddoniaeth neu’r Llwyd o’r Bryn… os ydych chi’n ei ‘styried yn ‘brif wobr’, yna mae’n brif wobr!
Pa Gardis?
Rhai sydd wedi’u geni yma, rhai sydd wedi symud yma, rhai byw a rhai sydd wedi’n gadael ni…
Os ydych chi’n gwybod am rywun o’ch bro sydd wedi ennill prif wobr, cofiwch ei ychwanegu at y rhestr, trwy ymuno/mewngofnodi, a phwyso ‘ychwanegu diweddariad’ isod.
Daniel yn ennill y Daniel: Daniel Davies, Pen-bont Rhydybeddau – ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011
Eirwen Hughes, Pen-cwm, Penrhyn-coch, enillydd y Rhuban Glas, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1982.
Rhiannon Ifans, enillydd y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019