Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar ein gallu – a’n hawydd – i ymgynnull.
Gall effaith hirdymor hyn fod yn enfawr, gyda hen arferion cwrdd yn cael eu diddymu, pobl yn cael eu hynysu wrth eraill, a phopeth sydd wedi dal ein cymunedau gyda’i gilydd yn sydyn yn ymddangos yn anodd eu cyffwrdd.
Daw cyfle felly i holi’n hunain: pam dod ynghyd?
Bydd yr atebion yn amrywio o berson i berson, ond y peth pwysig yw ein bod yn dod ynghyd. Yn y dod ynghyd mae’r egni, yr holi, yr adnabod, y creu, y trefnu, y chwerthin.
Y cwestiwn nesaf yw: sut?
Ar adegau fel hyn, mae’n gwestiwn ymarferol cymaint â dim; ond mae hefyd yn gyfle i ddychmygu: sut ydyn ni eisiau dod ynghyd? Beth ydyn ni eisiau i’n gweithgaredd fod? Sut gallwn ni ddysgu gwersi o’r flwyddyn o beidio â gallu cwrdd â’n gilydd i wella’r profiad o fod gyda’n gilydd?
Y canllaw
Canllaw yw Dod Ynghyd i’n hannog ni i feddwl am y cwestiynau yma wrth ddod yn ôl at ein gilydd.
Mae’n ganllaw i unigolion sy’n cydio yn yr awenau er mwyn gwneud gwahaniaeth; i grwpiau sydd wedi’u hen sefydlu sydd eisiau edrych ar bethau o’r newydd; i fudiadau sydd wedi blino ar hen arferion.
Mae’n gofyn i ni ystyried pwy y’n ni, i ble y’n ni eisiau mynd, pwy ddyle ni fod yn eu cynnwys, a sut i gynnwys y rhai dy’n ni ddim.
Pam Dod Ynghyd? Sut i Ddod Ynghyd? Yr un yw’r ddau.
Crëwyd y canllaw ar sail sgyrsiau Prosiect Fory.
Gallwch lawrlwytho’r canllaw fel PDF isod.
Adnoddau i gyd-fynd â’r canllaw
Mae croeso i chi ddefnyddio pa bynnag rai o’r adnoddau ychwanegol yma sydd eu hangen arnoch:
Adnodd 1: Cynnal digwyddiad awyr agored yn saff
Cynghorion ac arfer da ar gynnal gweithgareddau sy’n ddiogel o ran Covid.
Adnodd 2: Defnyddio ein cyfryngau – beth sy’n dda am wneud beth?
Sut gallwn ni fanteisio ar y cyfryngau sydd ar gael i’n helpu i drefnu, cyrraedd pobol a darlledu?
Adnodd 3: Penodi swyddogion – mae sawl ffordd o’i gwneud hi
Yn 2021, yw penodi pobol i rolau traddodiadol Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd bob tro’n addas?
Adnodd 4: Sut mae parhau i gynnal pethau’n Gymraeg?
6 dull i chi roi cynnig arnynt wrth drefnu gweithgareddau, er mwyn helpu mewnfudwyr i gymhathu.
Adnodd 5: Ffyrdd o gynnwys pawb
Pethau i’w cadw mewn cof er mwyn cynnwys pobl llai abl yn ein gweithgareddau.
Adnodd 6: Pethau bach i’w cofio wrth gwrdd ar-lein
Y ffyrdd gorau o fanteisio ar raglenni fel Zoom.
Adnodd 7: Cofnodi’r pethau sy’n codi mewn sgwrs ar-lein
Manteisio i’r eithaf ar declynnau fel Miro, Bwrdd Gwyn Zoom a google docs wrth gofnodi.
Adnodd 8: Sut mae hwyluso sgwrs greadigol
Cyngor ar sut i gael y gorau allan o’ch criw mewn sgwrs, heb ei throi’n ‘gyfarfod’.
Pwy yw Prosiect Fory?
Ni yw Prosiect Fory – bawb sydd am fod yn rhan o’r symudiad tuag at y dyfodol. Mae’r fenter yn cael ei harwain gan bartneriaeth rhwng Radio Beca a Bro360. Nod y ddau yw rhoi’r grym i bobol siapio cymdeithas trwy ysgogi trafodaeth am syniadau, a galluogi darlledu’r syniadau hynny er mwyn eu rhannu’n eang.