Cynnal digwyddiad awyr agored yn saff

Canllaw arfer da ar gyfer pan fydd modd cynnal gweithgareddau yn ein cymunedau unwaith eto

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Côr GobaithBroAber360

Côr Gobaith yn perfformio yn yr awyr agored yn Aberystwyth yn haf 2020

Y cyngor gwyddonol yw bod llai o risg i’r coronafeirws gael ei drosglwyddo yn yr awyr agored.

Ar adegau pan fydd cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu cynnal digwyddiadau yn y gymuned, tybed a oes modd i ni drefnu digwyddiadau’n saff trwy ailfeddwl ein man cyfarfod a gwneud defnydd creadigol o’r awyr agored?

Dyma ambell awgrym o arfer da i’w dilyn wrth drefnu digwyddiad bach yn eich bro:

 

Pethau mae angen i bawb eu gwneud yn eich digwyddiad awyr agored:

  • Aros 2 fetr ar wahân.

Yr eithriad yw os yw’r bobol mewn swigen gyda’i gilydd, neu weithgareddau lle gall pobol dreulio cyfnodau byr o amser o fewn 2 fetr i’w gilydd, fel chwaraeon tîm.

 

Arfer da i bawb mewn digwyddiad awyr agored:

  • Gwisgo mwgwd.
  • Defnyddio diheintydd dwylo wrth gyrraedd a gadael.

 

Pethau i chi eu gwneud o flaen llaw:

  • Os yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar y pryd yn nodi mai hyn a hyn o bobol all ddod ynghyd, gallwch cyfyngu ar nifer y bobol trwy greu system docynnau / cofrestru o flaen llaw.
  • Ystyried cynnal eich digwyddiad neu weithgaredd mwy nag unwaith, e.e. cynnal drama am 6pm ac yna 8pm, gyda bwlch amser rhwng pob cynulleidfa.
  • Sgwennu asesiad risg o pa gamau rhesymol sy’n cael eu cymryd gennych fel trefnydd i leihau lledaeniad y feirws, yn dibynnu ar eich gweithgaredd a’r lleoliad, a chymryd sylw o drefniadau’r lleoliad ei hun hefyd (esiamplau ar gael ar y we).
  • Rhannu’r neges bod yn rhaid i unrhyw un â symptomau Covid beidio â mynychu.
  • Gosod digon o arwyddion i annog pawb i gymryd cyfrifoldeb dros leihau’r risg: cadw 2 fetr ar wahân, gwisgo mwgwd a sicrhau hylendid dwylo.
  • Gosod tâp neu sticeri ar y llawr i ddangos 2 fetr.
  • Darparu cadeiriau neu annog pobol i ddod â nhw, i osgoi gormod o symud o gwmpas.
  • Creu system un ffordd: pawb i gyrraedd o un cyfeiriad a gadael i gyfeiriad arall.
  • Rhoi diheintydd dwylo a thywelion papur yn y lleoliadau hynny.

 

Pethau i chi eu gwneud ar y pryd:

  • Casglu manylion cyswllt pawb sy’n dod i’ch digwyddiad a’u cadw am 21 diwrnod.
  • Golchi unrhyw gyfarpar sy’n cael eu cyffwrdd rhwng pob defnydd.

 

Cynnal digwyddiad dan do: cynghorion ychwanegol

Y prif wahaniaeth rhwng trefnu rhywbeth yn yr awyr agored a dan do yw’r angen i sicrhau bod y lle wedi’i awyru’n dda, a’ch bod yn gwybod faint o bobol all ffitio yn yr ystafell wrth gadw 2 fetr ar wahân.

Yr arfer gorau yw bod pawb yn cadw eu mwgwd ymlaen dan do, a gorau oll os allwch awyru’r ystafell yn dda – agor ffenestri a drysau ac ati.

 

Y prif gyngor yw hyn: cadwch lygad ar wefan Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf. Y canllawiau sydd mewn grym pan fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal fydd angen i chi eu dilyn.

 

Ysbrydoli eraill

Mae’n gallu bod yn anodd meddwl am syniadau am ffordd newydd i wneud pethau. Os ydych chi’n cynnal digwyddiad bach llwyddiannus gan ddilyn cyfyngiadau Covid, beth am rannu pwt am eich profiad ar eich gwefan fro?

Gallai stori fach gennych chi ysbrydoli eraill a chreu mwy o weithgarwch mewn bröydd ar draws Cymru.

 

Dod Ynghyd

Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.

Côr Gobaith

Cynnal digwyddiad awyr agored yn saff

Lowri Jones

Canllaw arfer da ar gyfer pan fydd modd cynnal gweithgareddau yn ein cymunedau unwaith eto

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)