Wyddoch chi pa stryd yng Nghaernarfon sydd ar glawr cyfrol diweddaraf Rhys Iorwerth?
Ia, Stryd Tomos, Twtil! A llun trawiadol iawn gan Geraint Thomas (neu Geraint Panorama!)
Mae Rhys yn disgrifio’r gyfrol fel casgliad newydd o “gerddi’r tridegau a cherddi newid byd”, a hon yw cyfrol o gerddi ddiweddaraf Rhys ers dychwelyd i’w fro enedigol yng Nghaernarfon, wedi pymtheg mlynedd yng Nghaerdydd.
Yn ôl Rhys, “plethiad o’r heulog a’r drycinog, y dwys a’r ysgafn, y mawr a’r mân” yw’r gyfrol Cawod Lwch, gyda ffotograffau Geraint Thomas yn lliwio’r cyfan.
Ac mae gan Wasg Carreg Gwalch newyddion cyffrous – bydd lansiad go iawn!
Ddydd Sadwrn 27 Tachwedd am 5 o’r gloch, bydd lansiad-yn-y-cnawd cyntaf Gwasg Carreg Gwalch ers mis Mawrth 2020 yn cael ei gynnal yn yr Hen Lys, Caernarfon.
Noddir y lansiad gan Gyngor Llyfrau Cymru, a bydd Rhys yn rhoi blas ar ei gyfrol yng nghwmni Myrddin ap Dafydd, a Geraint Panorama.
Ar ôl colli dwy ’Steddfod, pwy all wrthod y gwahoddiad!?