Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.
Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.
Rhywbeth bach yn wahanol i Gŵyl Bro am eiliad – ond dal yn berthnasol.
Y stori yma gan Ffion ar DyffrynNantlle360 yn gofnod gwych o daith gerdded yr Orsaf yn ddiweddar
Gwerth darllen.
Blas ar daith gerdded Yr Orsaf (Awst 2021)
Mae wedi dechrau ma yng ngardd gwrw’r Talbot – Tregaroch Bach Bach mlaen trwy’r pnawn, gyda Baldande, Pedwarawd Jazz Rhys Taylor a Pwdin Reis!
Dyna fi am wan, dw i ffwrdd i Lanilar i gymryd rhan mewn daith gerdded, ac i gel baned a chacen. Fydd Lowri nôl oddeutu 2pm, cyn fyddai’n dychwelyd tua 4. Welai chi bryd na!
Ymlaen a ni tuag at ddau o’r gloch felly. Llwyth o ddigwyddiadau, fel y gwelwch!
2pm: Llyfrgell planhigion Gerlan – be nesa? – Sgwrs, cacen, a miwsig gan Dafydd Hedd
2pm: Helfa Drysor ar droed yn Llanbed – cwrdd am 2pm yn y Cwmins a bennu yn Hedyn Mwstard.
2pm: Helfa drysor Coedybryn – Helfa Drysor ar droed o amgylch y pentref, gyda dished, cacen a chlonc yn y neuadd ar ôl gorffen.
2-4pm: ‘Cerdded, crafu pen, clonc a chacen!’ – taith gerdded gyda phosau i’w cwbwlhau ar hyd y daith. Dechrau a gorffen yn yr Hen Ysgol Llanilar rhwng 2 a 4. Trefnir gan Y Ddolen.
2-8pm: Tregaroc Bach Bach – diwrnod o gerddoriaeth Gymraeg fyw mewn cydweithrediad â’r Talbot, gyda’r artistiaid Baldande, Pedwarawd Jazz Rhys Taylor a Pwdin Reis.
3.30pm: Prynhawn gyda’r côr newydd Encôr ar Pier Garth Bangor. Codi arian ar gyfer Gafael Llaw ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Eisiau darlledu o’ch digwyddiad ond yn ansicr am le i gychwyn? Darllenwch dipiau Owain Llŷr o gwmni Gweledigaeth!
7 tip syml ar gyfer darlledu o ddigwyddiad lleol
Dewch draw i Gerlan am 2 o’r gloch. Cyfle am sgwrs, cacen a chân! Diolch i Daniela Schlick am drefnu’r digwyddiad yma.
Nid dyma’r unig flog byw sydd ar wefannau Bro360 heddiw… draw ar BangorFelin360 mae Brengain wrthi’n dangos be sy’n digwydd yng Ngŵyl Felin!
Diweddariad blog byw
Da chi yng nghyffiniau Nefyn heddiw? Os ydach, pam ddim mynd draw i Amgueddfa Forwrol Llŷn? Mae ’na o llwyth o bethau mlaen na!
1pm – Rhaffu: rhowch gynnig ar greu cwlwm traddodiadol
2pm – Angylion Cymru: ffilm a chrefft i blant
3pm – I forio, i forio! Bywyd morwr
4pm – Taith dywys Helwyr Hanes i’r Heliwr
Barod am ddiwrnod prysur heddiw gyda Ffyj Mam yn Gwyl Bro Y Felinheli. Golygfa bendigedig!!
Ffyj Mam all set up for the day at Y Felinheli. And what a view!#yfelinheli #ffyjmam pic.twitter.com/MO07x2EobI— Ffyj Mam (@ffyjmam) September 4, 2021
Torf dda yn gwylio gem Bangor 1876 yn erbyn Llanberis neithiwr – 312 oedd y ffigwr swyddogol!