Yn fyw o Gŵyl Bro: dydd Sadwrn

Y diweddaraf o’r holl ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal yn rhan o’r ŵyl dros y penwythnos

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.

Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.

15:50

Gall pawb gyfrannu at y blog yma – pwyswch ‘ymuno’ (ar dop y sgrîn) i greu cyfrif, yna pwyso’r botwm ‘ychwanegu diweddariad’ yn y blog. Neu defnyddiwch #GŵylBro ar gyfryngau cymdeithasol!

15:48

Criw Curo Cancr yn galw heibio i godi arian gan dyrfa Trwgaroc Bach Bach

15:46

Rhai o griw Tregaroc yn darlledu ar flog byw Caron360

15:42

Yn boeth o’r wasg – mae newyddlenni y gwefannau bro yn cael eu dosbarthu dros y penwythnos ma.

Dyma bwt o straeon diweddaraf gwefannau Ceredigion – i wefannau Caron360, Clonc360 a BroAber360.

Ac i ddarllen mwy – wel ewch i’ch gwefan fro i weld y straeon diweddaraf!

15:28

15:26

Fyddwch chi’n bwrw draw i Fangor pnawn ma? Am 3.30 bydd perfformiad gan y côr newydd Encôr ar Pier Garth Bangor. Maen nhw’n codi arian ar gyfer Gafael Llaw ac Ambiwlans Awyr Cymru.

15:17

Mae Taith Gerdded Llanilar wedi dychwelyd nôl i le gynhaliwyd sesiynau cychwynnol Gŵyl Bro, nôl ym mis Mai!

15:01

“Dw i’n gobeithio y gwneith hwn ddod â phobl allan, achos fydd lot o bobl wedi colli hyder a meddwl eu bod nhw ddim yn gallu cymdeithasu dim mwy”

Mae Anwen Roberts yn falch bod cyfle wedi codi i drefnu digwyddiadau yn lleol eto, i helpu cymunedau i gamu mlaen o Covid.

14:59

pytiau-insta-gwefannau-bro-sda

Oes digwyddiad mlaen yn eich ardal chi?

Y penwythnos ma… neu unrhyw bryd!

Rhowch e yng nghalendr digidol newydd sbon Golwg – y lle y weld popeth sy mlaen.

Bois bach, mae’n braf gweld pethau mlaen to, yn dyw hi?!

14:35

Mae’n fyw! Blog o’r dwli yn Nhregaron ;)

 

Blog byw o Tregaroc Bach Bach

Fflur Lawlor

Dilynwch y diweddara o Dregaron, a chyfrannwch at y blog os chi ma!