Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.
Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.
Helo bawb – Dan ’ma, ysgogydd gogledd Ceredigion yn barod i’ch mynd a chi drwy bethau Gŵyl Bro tan ddau, pryd fyddai yn mynd ar daith gerdded yn Llanilar. Bwriadu mynd i un heddiw? Ychwanegwch ddiweddariad i’r blog, neu defnyddiwch #gŵylbro ar y cyfryngau cymdeithasol!
Dyma hanes un arall o ddigwyddiadau Gŵyl Bro gafodd ei chynnal neithiwr – oes safle gwell na hwn ar gyfer lloches i’r gymuned?
Diolch Nia am gyhoeddi dy stori gynta ar BroAber360.
Agoriad swyddogol Lloches ger y môr Llansantffraid, Llanon
I ddod ar eich stepen drws chi…
Dyma rai o ddigwyddiadau Gŵyl Bro fydd mlaen weddill y dydd. Mwy o fanylion yn y calendr.
1pm: Helwyr Hanes – Diwrnod o ymgolli yn hanes morwrol Nefyn, gyda gweithgareddau addas i’r teulu gyfan yn Amgueddfa Forwrol Llŷn.
2pm: Llyfrgell planhigion Gerlan – be nesa? Sgwrs, cacen, a miwsig gan Dafydd Hedd
2pm: Helfa Drysor ar droed yn Llanbed – cwrdd am 2pm yn y Cwmins a bennu yn Hedyn Mwstard.
2-4pm: ‘Cerdded, crafu pen, clonc a chacen!’ – taith gerddedgyda phosau i’w cwbwlhau ar hyd y daith. Dechrau a gorffen yn yr Hen Ysgol Llanilar rhwng 2 a 4. Trefnir gan Y Ddolen.
2-8pm: Tregaroc Bach Bach – diwrnod o gerddoriaeth Gymraeg fyw mewn cydweithrediad â’r Talbot, gyda’r artistiaid Baldande, Pedwarawd Jazz Rhys Taylor a Pwdin Reis.
3.30pm: Prynhawn gyda’r côr newydd Encôr ar Pier Garth Bangor. Codi arian ar gyfer Gafael Llaw ac Ambiwlans Awyr Cymru.
5.30pm: Helfa Drysor ar droed yn Gorsgoch – dechrau a bennu yng Nghefnhafod.
7-11pm: Gig Noson Ogwen yng nghlwb rygbi Bethesda, gyda’r artistiaid lleol Yazzy, Adam Boggs, Dafydd Hedd, Orinj a Cai
A chofiwch bod rhai digwyddiadau wedi dechrau a mlaen drwy’r dydd: Diwrnod Agored Bryngaer Dinas Dinlle, Treialon cŵn defaid Nant Peris, dangosiad ffilm Plethu yn Llandysul, a Gŵyl Bro y Felinheli.
? NEWYDDION ?
O heddiw ymlaen, i ddathlu Gŵyl Bro, gall PAWB sy’n byw UNRHYW LE yn gyhoeddi stori ar wefan Bro360!
Os ydych chi’n byw yn Arfon, gogledd Ceredigion neu ardal Llanbed, ewch i’ch gwefan fro.
Os ddim, ymunwch â bro360.cymru a dechrau creu.
Pethau’n edrych yn wych yn y Felinheli!
Ewch draw i flog byw Brengain a’r criw i weld lluniau a fideos o’r gweithgareddau i’r teulu cyfan.
Dyma’u hamserlen am y dydd:
10.30 – Sesiwn stori a symud gyda Leisa Mererid
11 – Barddoni gydag Osian Owen (i oedolion)
11.30 – Ffotograffiaeth gyda Kristina Banholzer (tynnu lluniau o’r amgylchedd)
12.30-2 – Y picnic mawr
2pm – Barddoni gydag Osian Owen (pobol ifanc 11+)
4pm – Set gan Dylan a Neil
Dilyn Gŵyl Bro Y Felinheli – YN FYW!
Mae Brengain ar lan y Fenai, a bydd yn dod â gweithgareddau’r Felinheli yn fyw i chi gydol y dydd ar wefan fro BangorFelin360.
Os da chi’n byd ochra Felin – ewch i’r ŵyl! Os ddim, dilynwch y cyfan yma –
(Drafft)
Ymuno â Gŵyl Bro
Os ydych chi ar y ffordd i’ch digwyddiad lleol, cofiwch dynnu lluniau, cymryd ambell fideo neu wneud rhywbeth gwahanol â’r ffôn yn eich poced, a’i rannu ar eich gwefan fro.
Mae’n hawdd!
Deunyddiau… diddorol gan Osian yn barod i’w sesiwn farddoni yn Gŵyl Bro Y Felinheli bore ma!
Barod at weithdy barddoni yn rhan o ŵyl fro @BangorFelin360 @Bro__360 heddiw! ? pic.twitter.com/JScjMm2ZTe
— Osian Owen (@osianowen1) September 4, 2021
Dyma ni, rhestr o’r holl ddigwyddiadau sy mlaen yn rhan o Gŵyl Bro (hyd y gwyddon ni!) Eich digwyddiad chi ddim yna? I mewn ag e / â fo i’r calendr!
Gwyl Bro – dros 20 o ddigwyddiadau
Be’ sy mlaen bore ma yn rhan o’r ŵyl?
8am ymlaen: Treialon cŵn defaid Nant Peris
10am – 4pm: Diwrnod agored i ddysgu mwy am y gwaith cloddio ar safle Bryngaer Dinas Dinlle
10.30am – 5pm: Diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu a stondinau yn Gŵyl Bro Y Felinheli, gan ddechrau efo sesiwn stori a symud gyda Leisa Mererid.
11am – 7pm: Dangosiad ffilm Plethu yn Llandysul
Ewch i gefnogi eich digwyddiad lleol – tynnwch luniau a fideos – cyhoeddwch nhw ar eich gwefan fro!