Yn fyw o Gŵyl Bro: dydd Sadwrn

Y diweddaraf o’r holl ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal yn rhan o’r ŵyl dros y penwythnos

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.

Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.

11:33

Screenshot-2021-09-04-at-11.31.54

Rhan o flog byw BangorFelin360 heddiw

Pethau’n edrych yn wych yn y Felinheli!

Ewch draw i flog byw Brengain a’r criw i weld lluniau a fideos o’r gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Dyma’u hamserlen am y dydd:

10.30 – Sesiwn stori a symud gyda Leisa Mererid

11 – Barddoni gydag Osian Owen (i oedolion)

11.30 – Ffotograffiaeth gyda Kristina Banholzer (tynnu lluniau o’r amgylchedd)

12.30-2 – Y picnic mawr

2pm – Barddoni gydag Osian Owen (pobol ifanc 11+)

4pm – Set gan Dylan a Neil

11:12

Dilyn Gŵyl Bro Y Felinheli – YN FYW!

Mae Brengain ar lan y Fenai, a bydd yn dod â gweithgareddau’r Felinheli yn fyw i chi gydol y dydd ar wefan fro BangorFelin360.

Os da chi’n byd ochra Felin – ewch i’r ŵyl! Os ddim, dilynwch y cyfan yma –

(Drafft)

Dilyn Gŵyl Bro Y Felinheli – YN FYW!

11:02

Ymuno â Gŵyl Bro

Os ydych chi ar y ffordd i’ch digwyddiad lleol, cofiwch dynnu lluniau, cymryd ambell fideo neu wneud rhywbeth gwahanol â’r ffôn yn eich poced, a’i rannu ar eich gwefan fro.

Mae’n hawdd!

10:52

Deunyddiau… diddorol gan Osian yn barod i’w sesiwn farddoni yn Gŵyl Bro Y Felinheli bore ma!

10:44

Dyma ni, rhestr o’r holl ddigwyddiadau sy mlaen yn rhan o Gŵyl Bro (hyd y gwyddon ni!) Eich digwyddiad chi ddim yna?  I mewn ag e / â fo i’r calendr!

Gwyl Bro – dros 20 o ddigwyddiadau

3 Medi 2021 – 5 Medi 2021
Digwyddiadau ar draws sawl bro, gan bobol y fro, i ddod â phobol ynghyd a dathlu’r filltir sgwâr.

10:37

Be’ sy mlaen bore ma yn rhan o’r ŵyl?

8am ymlaen: Treialon cŵn defaid Nant Peris

10am – 4pm: Diwrnod agored i ddysgu mwy am y gwaith cloddio ar safle Bryngaer Dinas Dinlle

10.30am – 5pm: Diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu a stondinau yn Gŵyl Bro Y Felinheli, gan ddechrau efo sesiwn stori a symud gyda Leisa Mererid.

11am – 7pm: Dangosiad ffilm Plethu yn Llandysul

Ewch i gefnogi eich digwyddiad lleol – tynnwch luniau a fideos – cyhoeddwch nhw ar eich gwefan fro! 

10:22

A dyma’r stori gynta o’r gwefannau bro!

Oriel luniau o daith gerdded o Bow Street i Landre, a gynhaliwyd nos Iau.

“Noson lwyddiannus dros ben, a’n milltir sgwâr ar ei gorau yn yr heulwen hwyr!”

Diolch Anwen am ddod â phobl ynghyd ac am rannu’r stori.

Gŵyl Bro Bow Street a Llandre

Anwen Pierce

Cerdded a Chlonc yn ein milltir sgwâr

10:19

Pryd mae’r ŵyl mlaen?

Mae ambell ddigwyddiad wedi bod neithiwr a nos Iau, a thipyn heddiw a fory ac ymlaen i wythnos nesa.

Byddwn ni’n rhannu straeon o’r digwyddiadau wrth iddyn nhw gael eu gyhoeddi ganddoch chi bobol leol, ac yn rhoi gwybod beth sydd i ddod pryd yn y blog byw yma…

10:17

map-digwyddiadau-3921

Ble mae’r Ŵyl?

Wel… nid mewn un man yn unig! Mae ’na bobol mewn cymunedau ar draws Gwynedd a Cheredigion wedi defnyddio pecyn yr ŵyl i’w hysbrydoli i gynnal digwyddiad i’w cymdogion.

Roedd y pecyn yn llawn adnoddau i helpu i feddwl am syniadau sut i ddod â phobol ynghyd (yn ddiogel) i ddathlu’r filltir sgwâr.

Felly dyma nhw – lleoliadau’r ŵyl…  neu ŵylIAU ddylsen ni ddweud!

10:09

Beth yw Gŵyl Bro?

Gŵyl sy’n fwy nag un gŵyl(!) Mae’n gyfres o ddigwyddiadau lleol-iawn sy’n helpu cymunedau i gamu mlaen o Covid.

Mae’r digwyddiadau’n amrywio o gigs i helfa drysor i escape room newydd sbon… a’r nod yw dod â phobol ynghyd, dathlu’r filltir sgwâr a brolio’r fro.