Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.
Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.
Dilyn Gŵyl Bro Y Felinheli – YN FYW!
Mae Brengain ar lan y Fenai, a bydd yn dod â gweithgareddau’r Felinheli yn fyw i chi gydol y dydd ar wefan fro BangorFelin360.
Os da chi’n byd ochra Felin – ewch i’r ŵyl! Os ddim, dilynwch y cyfan yma –
(Drafft)
Ymuno â Gŵyl Bro
Os ydych chi ar y ffordd i’ch digwyddiad lleol, cofiwch dynnu lluniau, cymryd ambell fideo neu wneud rhywbeth gwahanol â’r ffôn yn eich poced, a’i rannu ar eich gwefan fro.
Mae’n hawdd!
Deunyddiau… diddorol gan Osian yn barod i’w sesiwn farddoni yn Gŵyl Bro Y Felinheli bore ma!
Barod at weithdy barddoni yn rhan o ŵyl fro @BangorFelin360 @Bro__360 heddiw! ? pic.twitter.com/JScjMm2ZTe
— Osian Owen (@osianowen1) September 4, 2021
Dyma ni, rhestr o’r holl ddigwyddiadau sy mlaen yn rhan o Gŵyl Bro (hyd y gwyddon ni!) Eich digwyddiad chi ddim yna? I mewn ag e / â fo i’r calendr!
Gwyl Bro – dros 20 o ddigwyddiadau
Be’ sy mlaen bore ma yn rhan o’r ŵyl?
8am ymlaen: Treialon cŵn defaid Nant Peris
10am – 4pm: Diwrnod agored i ddysgu mwy am y gwaith cloddio ar safle Bryngaer Dinas Dinlle
10.30am – 5pm: Diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu a stondinau yn Gŵyl Bro Y Felinheli, gan ddechrau efo sesiwn stori a symud gyda Leisa Mererid.
11am – 7pm: Dangosiad ffilm Plethu yn Llandysul
Ewch i gefnogi eich digwyddiad lleol – tynnwch luniau a fideos – cyhoeddwch nhw ar eich gwefan fro!
A dyma’r stori gynta o’r gwefannau bro!
Oriel luniau o daith gerdded o Bow Street i Landre, a gynhaliwyd nos Iau.
“Noson lwyddiannus dros ben, a’n milltir sgwâr ar ei gorau yn yr heulwen hwyr!”
Diolch Anwen am ddod â phobl ynghyd ac am rannu’r stori.
Pryd mae’r ŵyl mlaen?
Mae ambell ddigwyddiad wedi bod neithiwr a nos Iau, a thipyn heddiw a fory ac ymlaen i wythnos nesa.
Byddwn ni’n rhannu straeon o’r digwyddiadau wrth iddyn nhw gael eu gyhoeddi ganddoch chi bobol leol, ac yn rhoi gwybod beth sydd i ddod pryd yn y blog byw yma…
Ble mae’r Ŵyl?
Wel… nid mewn un man yn unig! Mae ’na bobol mewn cymunedau ar draws Gwynedd a Cheredigion wedi defnyddio pecyn yr ŵyl i’w hysbrydoli i gynnal digwyddiad i’w cymdogion.
Roedd y pecyn yn llawn adnoddau i helpu i feddwl am syniadau sut i ddod â phobol ynghyd (yn ddiogel) i ddathlu’r filltir sgwâr.
Felly dyma nhw – lleoliadau’r ŵyl… neu ŵylIAU ddylsen ni ddweud!
Beth yw Gŵyl Bro?
Gŵyl sy’n fwy nag un gŵyl(!) Mae’n gyfres o ddigwyddiadau lleol-iawn sy’n helpu cymunedau i gamu mlaen o Covid.
Mae’r digwyddiadau’n amrywio o gigs i helfa drysor i escape room newydd sbon… a’r nod yw dod â phobol ynghyd, dathlu’r filltir sgwâr a brolio’r fro.