Gŵyl Bro: dydd Sul

Straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro dros y penwythnos 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.

Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.

12:29

Oes lleoliad gwell am lloches?

Dyma bwt o hanes agoriad swyddogol y llocher ger y môr yn Llansantffraed.

Diolch Nia Harries am gyhoeddi hon ar BroAber360.

Agoriad swyddogol Lloches ger y môr Llansantffraid, Llanon

Nia Harries

Dathlu’r lloches newydd gyda gweithgareddau i’r teulu

 

12:26

Fuoch chi mewn Gŵyl Bro?

Cofiwch rannu stori fach am y profiad ar eich gwefan fro.

Mae’n hawdd – dim ond creu cyfri, yna Creu > Stori.

Fe rannwn bob stori yn y blog yma.

12:11

Sôn am BangorFelin360, fe rannodd un o’r trefnwyr ei theimladau â golwg360 cyn y penwythnos, ar ôl iddi fod trwy gyfnod anodd yn ystod Covid.

“Dw i’n gobeithio y gwneith hwn ddod â phobl allan, achos fydd lot o bobl wedi colli hyder a meddwl eu bod nhw ddim yn gallu cymdeithasu dim mwy,” medd Anwen Roberts.

Diolch Anwen am fwrw ati i drefnu digwyddiad gwerth chweil, ac am roi rheswm i bobol ddod ynghyd a mwynhau ar ôl amser mor hir.

12:08

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd Gŵyl Bro Y Felinheli – diwrnod llawn gweithgareddau i’r teulu a stondinau busnesau lleol.

Pwy wnaeth fwynhau’r sesiwn stori a symud gan Leisa Mererid? Ac oes na brifardd newydd wedi dysgu ei grefft yng ngweithdy barddoni Osian Owen?

Diolch o galon i un o griw BangorFelin360 – Brengain Glyn – am gynnal blog byw o’r holl weithgarwch. Mwynhewch bori trwy’r lluniau a’r fideos…

(Drafft)

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos oedd Gŵyl Bro Y Felinheli – diwrnod llawn …

 

12:05

Daeth rhyw 30 o bobol i daith gerdded hamddenol yn ardal Bow Street a Llandre nos Iau.

Dyma rai lluniau gan Anwen Pierce ar BroAber360, oedd yn falch o weld ei “milltir sgwâr ar ei gorau yn yr heulwen hwyr”

Gŵyl Bro Bow Street a Llandre

Anwen Pierce

Cerdded a Chlonc yn ein milltir sgwâr

12:03

Darbi bêl-droed fawr fuodd mlaen ym Mangor nos Wener – o flaen tyrfa o dros 300.

Dyma stats y gêm gan Osian Glyn, ar BroWyddfa360 a BangorFelin360.

Bangor 1876 3-0 Llanberis

Osian Glyn

Y darans yn chwara’n dda er gwaetha’r sgôr.

09:49

*NEWYDD*

Bore ma mae stafell ddirgel arbennig iawn yn agor yn Llanddewi Brefi…. rhowch groeso i JENGYD!

A fydd pawb yn llwyddo i ddianc o’r stafell yn y New Inn cyn i’r hanner awr ddod i ben?

Cadwch lygad ar flog byw Jengyd ar Caron360 i weld wy sy’n mynd yn sownd, a phwy sy’n heb law ar jengyd!

Blog byw o JENGYD

Enfys Hatcher Davies

Escape Room Llanddewi Brefi – dewch i weld sut mae’n mynd.

Enfys Medi
Enfys Medi

Swnio’n ddigwyddiad cyffrous iawn yn Llanddewi!

Mae’r sylwadau wedi cau.

09:46

Mae sawl cymuned yng Ngheredigion wedi penderfynu mai helfa drysor yw’r ffordd orau o ddod â phobol ynghyd yn saff. Mae’n amlwg bod by Cardis yn joio whilo pethau gwerthfawr!

Felly, shwt a’th hi yn helfa Gorsgoch neithiwr?

Enfys sydd â stori fach ar Clonc360

09:45

Er bod tipyn o ddigwyddiadau’r ŵyl wedi bod ddoe, mae rhai mlaen heddiw hefyd.

Ewch draw os oes un yn eich patshyn chi!

o 10am: Taith dywys o Rachub i Moel Wnion ag yn ôl dros Gyrn, Llefn a Moel Faban. Trefnir gan Ar y Trywydd.

10.30: Oedfa Capel Shiloh Llanbed

Trwy’r dydd: Stafell JENGYD yn Llanddewi Brefi  (mae’n ddawn dop, ond dilynwch y cyffro yn y blog byw)

4pm: Picnic pentre’ a gig gyda’r Smoking Guns yn Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd

09:45

Aeth hi’n giciau o’r smotyn i Nantlle Vale!

Begw Elain yw Swyddog Cyfryngau ei chlwb pêl-droed lleol, a dyma’r stori ddiweddaraf ganddi, am y gêm ddoe.

Cadwch lygad allan ar DyffrynNantlle360 yn ystod y dydd – bydd fideo uchafbwyntiau’r gêm allan heddiw!