Gŵyl Bro: dydd Sul

Straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro dros y penwythnos 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.

Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.

12:03

Darbi bêl-droed fawr fuodd mlaen ym Mangor nos Wener – o flaen tyrfa o dros 300.

Dyma stats y gêm gan Osian Glyn, ar BroWyddfa360 a BangorFelin360.

Bangor 1876 3-0 Llanberis

Osian Glyn

Y darans yn chwara’n dda er gwaetha’r sgôr.

09:49

*NEWYDD*

Bore ma mae stafell ddirgel arbennig iawn yn agor yn Llanddewi Brefi…. rhowch groeso i JENGYD!

A fydd pawb yn llwyddo i ddianc o’r stafell yn y New Inn cyn i’r hanner awr ddod i ben?

Cadwch lygad ar flog byw Jengyd ar Caron360 i weld wy sy’n mynd yn sownd, a phwy sy’n heb law ar jengyd!

Blog byw o JENGYD

Enfys Hatcher Davies

Escape Room Llanddewi Brefi – dewch i weld sut mae’n mynd.

Enfys Medi
Enfys Medi

Swnio’n ddigwyddiad cyffrous iawn yn Llanddewi!

Mae’r sylwadau wedi cau.

09:46

Mae sawl cymuned yng Ngheredigion wedi penderfynu mai helfa drysor yw’r ffordd orau o ddod â phobol ynghyd yn saff. Mae’n amlwg bod by Cardis yn joio whilo pethau gwerthfawr!

Felly, shwt a’th hi yn helfa Gorsgoch neithiwr?

Enfys sydd â stori fach ar Clonc360

09:45

Er bod tipyn o ddigwyddiadau’r ŵyl wedi bod ddoe, mae rhai mlaen heddiw hefyd.

Ewch draw os oes un yn eich patshyn chi!

o 10am: Taith dywys o Rachub i Moel Wnion ag yn ôl dros Gyrn, Llefn a Moel Faban. Trefnir gan Ar y Trywydd.

10.30: Oedfa Capel Shiloh Llanbed

Trwy’r dydd: Stafell JENGYD yn Llanddewi Brefi  (mae’n ddawn dop, ond dilynwch y cyffro yn y blog byw)

4pm: Picnic pentre’ a gig gyda’r Smoking Guns yn Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd

09:45

Aeth hi’n giciau o’r smotyn i Nantlle Vale!

Begw Elain yw Swyddog Cyfryngau ei chlwb pêl-droed lleol, a dyma’r stori ddiweddaraf ganddi, am y gêm ddoe.

Cadwch lygad allan ar DyffrynNantlle360 yn ystod y dydd – bydd fideo uchafbwyntiau’r gêm allan heddiw! 

09:42

Dathlu dod at ei gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned oedd diben y digwyddiad yn Gerlan pnawn ddoe.

Ac roedd Dani, un o’r trefnwyr, yn hapus gyda sut aeth hi – “dan ni wedi cael llawer o syniadau beth mae pobl Gerlan yn licio ei weld yn y lle o gwmpas y llyfrgell planhigion. Gwych dach chi!! Watsh ddis spês!” 

Mwy yn y stori ar Ogwen360

Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan

Daniela Schlick

Dathlu dod at ein gilydd eto a chreu lle da yn ein cymuned