Ar ôl casglu barn trigolion yr ardal, mae Bro360 yn ymestyn y gwefannau bro ar draws Arfon gyfan.
Bydd Bro360 yn helpu pobol Bangor i sefydlu gwefan a gwasanaeth digidol newydd i’r fro.
Ar ôl sefydlu saith gwefan lwyddiannus yn Arfon a Cheredigion dros y misoedd diwethaf, y bwriad nawr yw symud ymlaen i gyd-greu gwefan Bangor.
Wrth gasglu barn, daeth i’r amlwg bod galw am wasanaeth newydd ar-lein fydd yn crynhoi popeth sy’n dda am Fangor.
Mae’r bwrlwm yn amlwg i bawb sy’n byw ac yn gweithio yma, ac yn ôl yr ymchwil, mae galw mawr am galendr digidol, a phlatfform digidol i rannu hanesion y clybiau chwaraeon, newyddion Cymraeg, a thynnu sylw at fusnesau lleol.
Fel gyda gweddill y gwefannau bro, gwasanaeth ‘gan y bobol’ fydd hwn – trigolion Bangor fydd yn dweud wrthym sut wefan maen nhw am ei gweld, a nhw fydd yn creu’r cynnwys a hyrwyddo digwyddiadau.
Byddwn ni yn Bro360 ar gael i gynnig cymorth, cyngor, a hyfforddiant i sicrhau bod cymaint o bobol leol â phosib yn manteisio ar y cyfle i gael llais a hybu eu bro.
Bydd ‘Sesiwn Sefydlu Gwefan Fro Bangor’ – sesiwn gan Bro360 i sefydlu’r gwasanaeth digidol newydd – yn cael ei chynnal am 6:30pm nos Iau, 18 Mawrth, ar Zoom.
Cysylltwch gyda guto@bro360.cymru i dderbyn dolen y cyfarfod Zoom.