Mae modd i unrhyw bapur bro yng Nghymru ryddhau eich rhifynnau ar-lein, yn rhad ac am ddim.
Mae yna ddau brif opsiwn i’ch papur chi:
- Cyhoeddi PDF o’r rhifyn diweddaraf > a’i wneud ar gael am ddim i bawb
- Cyhoeddi PDF o’r rhifyn diweddaraf > a gosod botwm ’tanysgrifio’ er mwyn codi arian
Os ydych am ddechrau codi arian trwy osod botwm tanysgrifio, cysylltwch â ni i drafod y manylion.
Pa bynnag opsiwn rydych chi am ei dewis, y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar wefan Bro360.cymru yn enw eich papur bro.
Yna, bydd modd i chi lwytho rhifynnau pryd bynnag byddwch chi’n dymuno, a bydd modd i chi rannu tudalen eich gwefan fro chi i bawb weld y rhifynnau i gyd gyda’i gilydd.
Bydd y dudalen hon yn eistedd wrth ochr tudalen yr holl bapurau bro eraill yng Nghymru sy’n manteisio ar y cyfle hefyd – bydd yn blatfform i ddarllen papurau Cymru gyfan.
CAM 1 (os nad ydych wedi cyhoeddi yma o’r blaen): CREU CYFRIF
- Mynd i bro360.cymru a phwyso’r botwm ‘ymuno’ ar dop y sgrîn
(ddim yn gweld y botwm? mae angen i chi ddefnyddio naill ai porwr Google Chrome, Firefox neu Safari) - Creu cyfrif yn enw eich papur bro
- Cofio cadarnhau eich cyfri, trwy glicio ar linc yn yr ebost a anfonir atoch
- Rhoi gwybod i Lowri (lowrijones@golwg.cymru) pan fyddwch wedi creu cyfrif, ac anfon logo eich papur (a llun da o’ch bro!) atom ar ebost
Os bydd rhywun gwahanol i chi am lanlwytho rhifyn yn y gorffennol, cofiwch basio’r manylion mewngofnodi mlaen atyn nhw.
CAM 1 (os ydych yn cyhoeddi rhifyn nesaf eich papur bro ar-lein): MEWNGOFNODI
- Ewch i bro360.cymru a phwyso’r botwm mewngofnodi.
- Defnyddiwch yr un ebost ag o’r blaen i fewngofnodi i gyfrif eich papur bro
- Os ydych chi yn Arfon neu ogledd Ceredigion ac yn dymuno cyhoeddi’r rhifyn ar eich *gwefan fro* ac ar wefan Bro360, ewch i’ch gwefan fro i fewngofnodi. Defnyddiwch ebost cyfrif eich papur bro i fewngofnodi.
CAM 2: CREU ‘RHIFYN’ (lanlwytho PDF)
*sylwch bod y cyfarwyddiadau yma’n newydd ym Medi 2021
- O dan y ddewislen Creu ar frig y safle, dewiswch yr opsiwn Rhifyn.
- Rhowch enw’r rhifyn fel pennawd y stori (ee. “Medi 2021” – nid oes angen enw’r papur hefyd).
- Rhowch grynodeb byr.
- Pwyswch yr eicon ➕ a lanlwythwch y PDF o’ch cyfrifiadur
- Rhowch fraslun o gynnwys y rhifyn yn y brif flwch, ee. rhestr bwled o’r brif benawdau. (Bydd hyn o help i bobl i ddod o hyd i’r rhifyn mewn peiriant chwilio, gan na fydd y peiriant chwilio yn gallu gweld tu fewn i’r PDF ei hun.)
- Pwyswch ‘cyflwyno i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’
Bydd Bethan o Bro360 yn cael ebost i ddweud eich bod wedi cyflwyno rhifyn, ac yna ei gyhoeddi ar eich rhan.
A dyna ni! Gallwch weld rhifynnau ac erthyglau digidol papurau bro Cymru!