Dros benwythnos Gŵyl y Banc fis Awst, roedd rhywbeth newydd yn ymddangos bob whip stitsh ar wefan fro Clonc360.
Doedd dim Eisteddfod RTJ Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, eleni, ond penderfynodd y selogion lenwi’r bwlch trwy gyhoeddi cyfres o atgofion o eisteddfodau’r gorffennol.
#AtgofLlanbed oedd enw’r gyfres o straeon a gafodd eu rhyddhau ar Clonc360 gydol y penwythnos, a bues i’n holi un roddodd y syniad ar waith – Delyth Morgans Phillips – sut aethon nhw ati i gynhyrchu cymaint o stwff difyr a llenwi’r bwlch gyda ‘bach o fwrlwm…
O ble ddaeth y syniad i gynnal #AtgofLlanbed?
Rwy’n synhwyro bod mwy nac un ohonon ni eisiau gwneud rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc, i lenwi’r bwlch am nad oedden ni’n gallu cynnal Eisteddfod Llanbed eleni. Fe siarades i gyda Rhys Bebb Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, a buodd yntau’n cael sêl bendith Dorian Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod.
Roedd dewis hashnod ychydig yn anodd oherwydd y sillafiad Llambed/Llanbed (ac mae hynna’n gallu ysgogi dadl!) ond yn y diwedd fe benderfynes i ar #AtgofLlanbed… gan gadw golwg hefyd rhag ofn y bydde ’na ambell rebel wedi cyfrannu stwff â’r hashnod #AtgofLlambed!
Oedd yr arbrawf wedi llwyddo?
Roedd yn llwyddiant mawr. Roedd Rhys i ddechre wedi sicrhau bod ’na gyfranwyr yn barod i ddarparu straeon, gan gynnwys sawl elfen o’r Eisteddfod. Roedd cydweithio arbennig o dda rhwng pwyllgor yr Eisteddfod a thîm Clonc360. Roedd cael pethe’n barod â rhyw fath o strwythur (er nad oedd popeth yn fanwl ar bapur) yn help mawr.
Ac unwaith roedd yr erthyglau a drefnwyd ymlaen llaw yn dechre ymddangos, fe wnaeth hynny ysgogi eraill i gyfrannu. Nia Wyn Davies gafodd yr ysbrydoliaeth i gyhoeddi rhestrau cyn-enillwyr – lwcus bod llyfr cofnodion oddi ar 2001 yn eu tŷ nhw!
Sut oedd modd i bobol gyfrannu?
Roedd tair ffordd a dweud y gwir: gallai pobol gyhoeddi straeon a lluniau ar Clonc360, neu rannu pytiau ar Facebook a Twitter gyda’r hashnod.
Pwy fuodd yn cymryd rhan?
Aelodau presennol y pwyllgor oedd y rhan fwyaf o gyfranwyr ar Clonc360. Ond roedd hi’n braf cael ymateb rhai (ar Twitter yn bennaf) gan gynenillwyr sydd wedi datblygu gyrfa ym myd cerdd a’r cyfryngau fel Shân Cothi, Aled Hall, Rhian Lois a Fflur Wyn. Roedd pawb yn barod iawn i gyfrannu – neu efallai bod rhai wedi dod o dan berswâd Rhys Bebb!
Beth oedd dy hoff atgof di?
Joies i ddarllen nhw i gyd. Efallai bod stori Goronwy a Beti Evans yn olrhain dechreuadau’r Eisteddfod yn arwyddocaol, yn enwedig i rywun fel fi sy’n rhy ifanc i gofio hynny. Ac ro’n i’n licio’r ffaith bod Goronwy (fel pob siopwr da) yn annog ni i brynu’r llyfr Llais Llwyfan Llanbed i gael y stori’n llawn!
Pam wyt ti’n credu bod #AtgofLlanbed – sy’n brosiect hyper-lleol go iawn – wedi llwyddo cystal?
Mae’r ffaith bod pobol yn aros ar bwyllgor yr Eisteddfod mor hir yn arwydd eu bod nhw’n hapus i gyfrannu ac yn cydweithio fel teulu. Mae blynyddoedd o brofiad ar y pwyllgor, ac roedd hynny’n dod i’r amlwg yn y straeon. Does dim rhyfedd felly fod pobol yn barod i rannu’u hatgofion o’r Eisteddfod, gŵyl sy’n annwyl iawn i lot ohonom ni.
Beth yw dy ‘top tip’ ar gyfer ysgogi stori i dy wefan fro?
Mae’n rhaid braenaru’r tir. Does dim diben holi cwestiwn penagored ar y cyfryngau cymdeithasol yn holi pobol i gyfrannu – ry’n ni fel Cymry yn rhy swil neu benstiff rywffordd i wneud hynny! Mae angen adnabod y bobol a’u holi nhw mlaen llaw i wneud rhywbeth. Os yw’r peth i lwyddo, fe ddaw cyfranogwyr eraill mlaen i ychwanegu at y stori wedyn, fel pelen eira.
Oes gen ti hoff stori ar Clonc360 yn ystod y Cyfnod ‘Sa Draw?
Roeddwn i’n meddwl bod y gwaith ymchwil wnaeth Dylan Lewis yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardderchog. Roedd ganddo stori ddyddiol yn hel atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Llanbed 1984 oedd yn gyfuniad o straeon lleol, dyddiadur personol a newyddion cenedlaethol o’r Brifwyl.
Beth yw dy obeithion i’r dyfodol – i Eisteddfod Llanbed, i weithgareddau lleol, ac i Clonc360?
Rwy’n gobeithio’n fawr y cawn ni ailafael yn ein gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol cyn bo hir. Mae ’na ddarogan y bydd hi’n aeaf caled (nid o ran y tywydd yn unig), ond fy ngobaith i yw y cawn ni gynnal Eisteddfod Llanbed fis Awst nesa, ac y bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion hefyd cyn hynny wrth gwrs.
Ta sut fydd hi arnon ni, rwy’n ffyddiog serch hynny y cawn ni fel Cymry Cymraeg diwylliedig ddiddanu’n hunain a diddanu’n gilydd, ac y bydd yna storis i’w hadrodd ar Clonc360.
Ewch i ddarllen atgof Delyth a’r cyfoeth o straeon #AtgofLlanbed ar Clonc360.cymru:
Delyth Morgans Phillips sy’ ddim o deulu eisteddfodol yn rhannu atgofion am Eisteddfod Llanbed.
Oes gennych chi stori i’w rhannu?
Boed atgof am ddigwyddiad, darn barn am bwnc llosg neu fideo am y profiad o fynd nôl i’r ysgol (neu unrhyw beth arall!) dim ond 3 pheth sydd angen gwneud: Mynd i’ch gwefan fro > Ymuno > Creu stori.