Straeon cynta’r gwanwyn ar y gwefannau bro

Pice ar y Maen anferth, set gerddorol lawn, a 2 fideo sy’n dangos y gorau o gymdeithas dros Ŵyl Dewi

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma flas o brif straeon y gwefannau lleol yn wythnos gynta mis Mawrth…

Cyhoeddiad yr wythnos

Mae 3 o bobol ifanc ardal clonc360 yn sefyll mewn etholiadau Prifysgol yn Aberystwyth, Bangor ac Abertawe ac mae hynny, yn ôl Dylan Lewis, yn brawf o allu’r ardal i fagu “arweinwyr ifanc hyderus”…

Ymgeiswyr lleol mewn etholiadau prifysgolion

Dylan Lewis

Mae wythnos nesaf yn wythnos o etholiadau mewn nifer o brifysgolion yng Nghymru, ac mae sawl …

 

‘Stori Cofi’ yr wythnos

Rŵan, sut mae’n bosib cynnwys stori o Gaernarfon yn y rhestr yma, os nad oes gan Gaernarfon wefan fro eto?

Wel, neithiwr daeth criw ynghyd i greu’r wefan. Ei henw fydd Caernarfon360, a dyma un stori grëodd Lleu Bleddyn – gohebydd golwg360 – ddydd Iau i ddangos be sy’n bosib gyda gwefan straeon lleol dre’

“Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon”

Lleu Bleddyn

*Enghraifft o stori’r Cofi* Pedair ysgol yn cydweithio i gyfansoddi cân gyda Elidyr Glyn.

 

Fideo yr wythnos

Mae’n edrych fel fideo arferol o barti canu lleol yn morio ‘Hen Feic Peni-Ffardding fy Nhaid’ mewn cyngerdd Gŵyl Dewi yn Nhal-y-bont. Ond gwyliwch nes y diwedd!

Hwyl Ddewi yn Nhalybont

C M S Davies

Noson i ddathlu Gwyl Dewi yn Nhalybont. Digon o gawl a digon o ganu.

 

Hanesyn yr wythnos

Beth oedd bwriad gwreiddiol Canolfan Dulais – yr adeilad yn Llanbed sy’n cael ei dymchwel nawr? A beth oedd ei phwysigrwydd i ardal wledig wedi’r Ail Ryfel Byd? Dylan Lewis sy’n esbonio…

Canolfan Dulais dros y blynyddoedd

Dylan Lewis

I’r rhai ohonoch chi sydd wedi bod yn teithio rhwng Llanbed a Ffordd Llanwnnen dros y pythefnos …

 

Gôl yr wythnos (wel – mis!)

Begw Elain – gohebydd chwaraeon cynta Bro360 – sy’n ôl gyda fideo uchafbwyntiau o goliau gorau Nantlle Vale ym mis Chwefror.

Canlyniadau Gôl y mis-Nantlle Vale

Begw Elain

Ers Mis Rhagfyr llynedd mae Nantlle Vale yn creu fidio gôl y mis sy’n cynnwys holl goliau …

 

Set yr wythnos

Wedi colli gig Dafydd Hedd a Bryn Fôn ym Modffordd yn ddiweddar? Dyma fideo o’r set – mwynhewch!

Gig Dafydd Hedd ym Modffordd

Dafydd Herbert-Pritchard

Perfformiad Dafydd Hedd yn dechrau i Bryn Fôn ar 28/02/2020! Joiwch

 

Stori fwya’ poblogaidd yr wythnos

Ddydd Iau diwethaf torrwyd record byd am goginio’r Pice ar y Maen mwyaf, a hynny yng Nghaerfyrddin, diolch i waith peirianyddol cwmni Teify Forge Cyf o Gwmann.

Gof o Lanbed yn torri record byd

Dylan Lewis

Dydd Iau diwethaf, torrwyd record byd am goginio’r Welsh Cake mwyaf a hynny yng Nghaerfyrddin, …

 

Stori yr wythnos

Trwy ddŵr a thân (wel, gwynt a glaw difrifol!) aeth Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth yn ei blaen: yn un o 5 parêd yng Ngheredigion eleni. Lleu fuodd yn crynhoi’r gweithgarwch.

Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2020

Gohebydd Golwg360

Uchafbwyntiau o ddathliadau Gŵyl Dewi yn Aberystwyth eleni.

 

Hoffech chi gyfrannu eich stori fel y bobol hyn?

Os ydych yn byw yng ngogledd Ceredigion, ardal Llanbed, Dyffryn Ogwen neu Ddyffryn Nantlle, gallwch chi wneud hynny heddiw. Pwyswch ‘ymuno’ ar eich gwefan fro, ac yna ‘creu’ > ‘stori’. ?

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)