Dim ffigurau yw popeth.
(A dweud y gwir, dim ffigurau sydd bwysicaf o gwbwl!)
Ond, â bod modd rhannu ambell ystadegyn â chi, man â man gwneud nawr.
Achos mae 6 mis o’r flwyddyn wedi pasio (dw’i ddim yn siŵr bellach a yw amser yn hedfan neu’n dragio!), ac mae’n werth sylwi ar y straeon sy’n mynd lawr orau ar y gwefannau bro.
Y ffigurau
- 6 gwefan fro yn fyw (ac un arall ar y ffordd yn fuan iawn): BroAber360, BroWyddfa360, Caernarfon360, Clonc360, DyffrynNantlle360, Ogwen360
- 1,165 o bobol wedi creu cyfrif ar eu gwefan ac yn gallu cyhoeddi stori
- 1,569 o straeon wedi’u creu erioed ar draws y gwefannau
- 166 o straeon bro wedi’u cyhoeddi ym mis Mehefin yn unig
Y straeon ‘gorau’
Pwy sydd i ddweud pa un yw’r stori orau? Gallai hoff stori pob un ohonom fod yn wahanol, ac mae tîm Bro360 wedi dadlau dros eu hoff stori ym mis Mehefin yma.
Ond yr hyn mae’r ffigurau’n ei ddangos yw pa straeon sydd fwyaf ‘poblogaidd’. Yn ystadegol, o leiaf. Felly dyma nhw ar gyfer 6 mis cyntaf y flwyddyn:
- Blog byw o gystadleuaeth ddramâu CFfI Ceredigion
- Gwilym Price – colli un o hoelion wyth yr ardal
- Oriel Jones – colli cymeriad, cymwynaswr a chyflogwr lleol
- Blog byw – ymateb Llanbed i helynt y coronafeirws
- Helpwch ni, i helpu chi
- Cymryd tymheredd pob plentyn a dim cinio ysgol – y ‘normal newydd’
- Ymgyrch ‘Meat free March’ Macmillan
- Cwmnïau cludo bwyd Arfon adeg Covid-19
- Gof o Lanbed yn torri record byd
- Cofio ‘Dada’
Y fideos mwyaf poblogaidd
Fideos, fideos, fideos oedd yn llenwi’r gwefannau bro yn ystod lansiadau #EinBro ym Mehefin. Felly does dim syndod bod rhai o’r fideos diweddar yma wedi cael miloedd o hits. O hanes lleol i fideos spwff, mae pob math o bethau’n boblogaidd… ac yn bosibl.