Steddfota o’r soffa: cynnal Steddfod Ddigidol Gynta’r Byd!

Trefnydd, beirniad a chefnogwr Eisteddfod Capel-y-groes yn ardal Clonc360 sy’n rhannu eu profiad o gynnal digwyddiad lleol arloesol

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Steddfota o'r soffa

Steddfota o'r soffa: sgwrs banel gyda threfnydd, beirniad a chefnogwr Eisteddfod Capel y Groes am sut aed ati i gynnal Steddfod Ddigidol Gynta'r Byd!

Posted by Clonc360 on Thursday, 25 June 2020

Yn ystod y Pasg eleni fe benderfynodd pwyllgor Eisteddfod Capel-y-groes y bydden nhw’n arbrofi yn hytrach na chanslo.

Trwy wneud y defnydd gorau o dechnoleg llwyddwyd i gynnal 12 cystadleuaeth a denu dros 150 eitem ar gyfer y cystadlu. Mae’r fideos o’r cystadlu wedi’u gweld gan gannoedd ar gannoedd o bobol ar wefan Clonc360 ac ar dudalen Facebook y Steddfod, a bu’r steddfod leol hon yn ysbrydoliaeth i’r Urdd allu cynnal Eisteddfod T ym mis Mai.

Felly sut aeth y criw ati? Beth oedd yr heriau? A beth yw’r dyfodol pan ddaw hi at gynnal digwyddiadau lleol dros y blynyddoedd nesa?

Cewch glywed am hyn i gyd a mwy mewn sgwrs hwyliog gyda Luned Mair, Enfys Hatcher-Davies a Rhiannon Lewis, a gynhaliwyd yn fyw ar Facebook live Clonc360 ar nos Iau 25 Mehefin.

Os ydych chi’n steddfod neu ddigwyddiad lleol hoffai gael cyngor neu hyfforddiant ar sut i fanteisio i’r eithaf ar dechnoleg a’r we i ategu eich gweithgarwch yn lleol, cysylltwch â lowrijones@golwg.com a byddem yn falch iawn o’ch helpu.

Mae’r sgwrs hon yn un o gyfres o sgyrsiau ‘Dechrau wrth ein Traed’ a gynhelir gan Bro360 i hybu a rhannu enghreifftiau da o weithredu lleol ar lawr gwlad. Mwynhewch wrando neu wylio nôl.