Rhifyn 19 Llygad y Dydd, papur bro Dolgellau a’r cylch

Ein rhifyn digidol cyntaf un!

Llygad y Dydd
gan Llygad y Dydd

Croeso i Rifyn 19 Llygad y Dydd.

Oherwydd amodau’r cyfnod anodd a rhyfedd sydd yn ein wynebu ar hyn o bryd, ni fu’n bosibl i ni argraffu copi papur o Llygad y Dydd ar gyfer y mis hwn. Nid yw’n bosib anfon y papur i’w argraffu at Wasg y Lolfa yn ôl ein harfer oherwydd bod yr argraffdy wedi cau am y tro. Serch hynny, mae pwyllgor Llygad y Dydd yn teimlo ei bod yn bwysig dal ati i gyhoeddi’r papur, er bod hynny yn gorfod bod ar ffurf wahanol i’r arfer.

Diolch yn fawr i Gydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru a Bro360 am hwyluso gallu defnyddio’r
wefan hon.

Ymddiheurwn i’n darllenwyr arferol na fydd pawb yn medru darllen Llygad y Dydd ar y rhyngrwyd ond gobeithiwn y byddwn yn gallu argraffu copïau papur unwaith eto yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, diolch am allu defnyddio technoleg i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu rhifyn o ‘Llygad y Dydd.’

Ymunwch â’r sgwrs

Mona Hughes
Mona Hughes

Da iawn

Meg Thomas
Meg Thomas

19

Patrick Slattery
Patrick Slattery

Diolch am wneud yr ymdrech i gyhoeddi ein ‘Papur Bro’ ar y we mewn cyfnod pryderus iawn.

Ieuan James
Ieuan James

Llawer o ddiolch am gyhoeddi Llygad Y Dydd ar y we.

Ben Ridler
Ben Ridler

Llongyfarchiadau am rifyn ’run mor gyfoethog ac erioed.