Ydych chi’n bwriadu siopa’n lleol eleni, ond yn cael trafferth dod o hyd i fusnesau bach sy’n lleol i chi?
Ydy’ch busnes chi’n ei chael hi’n anodd torri trwy’r sŵn ar Instagram neu Facebook?
Mae gan eich gwefan fro yr ateb perffaith – i siopwyr a pherchnogion busnes!
Dyma gyflwyno…
Y Farchnad: busnesau bach eich bro mewn un man.
A hithau’n Black Friday (Gwener Gwallgo / Gwener Gwario Gwirion!) a thorfeydd rhithiol yn heidio i adran fargeinion ar wefannau busnesau mawr, mae Bro360 yn cydweithio gyda phedair gwefan fro i lansio adnodd sy’n helpu i gadw arian yn yr economi leol.
Mae tudalen Y Farchnad newydd fynd yn fyw ar Caernarfon360, DyffrynNantlle360, BroAber360 (ardal Aberystwyth), Clonc360 (ardal Llanbed) a Caron360 (ardal Tregaron). Mae bellach yn fyw ar BroWydda360 (Dyffryn Peris a Dyffryn Gwyrfai) hefyd.
Ac eisoes, mae dros 150 o fusnesau lleol yn ymddangos ar yr adnodd newydd.
Dyma le i weld siopau a chrefftwyr annibynnol eich milltir sgwâr mewn un man… fel cerdded lawr y stryd fawr! Ewch i mewn trwy ddrws (tudalen!) pob busnes i brynu – mae manylion eu gwefan neu leoliad ar y stryd yno.