Hoff straeon y tîm – mis Gorffennaf

Stori Covid ddirdynnol, hanes prosiect llesol, atgof o ’Steddfod ’84 a fideo ddireudus am Dregaron!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Fe fyddech chi’n meddwl mai prin yw’r straeon ar wefannau bro mewn cyfnod fel hyn. Does dim byd ymlaen yn lleol, oes ’na?

Wel, oes! Er gwaetha’r cyfyngiadau, mae ’na bobol leol yn ymateb yn greadigol i’r cyfnod, yn dal i godi arian at achosion da, ac yn dal i leisio barn neu hel atgofion o’r dyddiau a fu.

Mae rhwydwaith gwefannau Bro360 wedi tyfu i 7 gwefan erbyn hyn, wrth i Caron360 ymuno â BroAber360, Clonc360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.

Dyma ddetholiad sydyn o hoff straeon y tîm ar draws y gwefannau bro ym mis Gorffennaf…

Dewis Dan – ysgogydd Bro360 yng ngogledd Ceredigion

Mae Dan wedi cael mis prysur. Yn ogystal ag ysgogi pobol gogledd Ceredigion i greu fideos, straeon ac orielau ar BroAber360, mae wedi helpu cymuned Tregaron a’r cylch i greu eu gwefan newydd. Ewch i gael cip ar Caron360 i weld y diweddaraf o’r fro!

Hoff stori Dan yw blog Elin Haf ar BroAber360, sy’n sôn am y profiad o drefnu angladd a gweithio i’r GIG yn ystod Covid-19:

 

Dewis Guto – ysgogydd Bro360 yn ardal Arfon

Byddai Guto wedi mwynhau mynd yn ei shorts a’i welis i faes yr Eisteddfod yr wythnos hon. Ar ôl cyfnod prysur yn trefnu lansiadau #EinBro i ddwy o wefannau Arfon ym Mehefin, mae wedi bod yn gweithio’n agos gyda phobol newydd yng Nghaernarfon a’r cyffiniau i annog pobol newydd i greu.

Ei hoff stori yw’r fideo hwn gan Ŵyl Fwyd Caernarfon, sy’n rhoi cipolwg ar waith da menter newydd Porthi Pawb yn y dre:

 

Dewis Lleu – Gohebydd Bro360

Mae Lleu yn gweld eisiau’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd. Ond i leddfu ei hiraeth, mae wedi mwynhau pori trwy rai o straeon #AtgofGen, lle mae pobol yn cofio’r adegau pan ddaeth yr ŵyl i’w bro nhw.

Mae’r stori yma ar Clonc360 yn cofio nôl i steddfod ‘sych’ Llanbed ’84, ac mae hanes y pancws yn enwedig wedi rhoi gwên ar wyneb Lleu!

#AtgofGen Busnes sychedig oedd ‘steddfota ym 1984!

Dylan Lewis

Ble oedd mynd am beint adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanbed gyda’r rheol dim alcohol ar y maes?

 

Dewis Lowri – Cydlynydd Bro360

Mae Lowri am dorri’r rheolau. Yn lle dewis stori a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, mae am ymestyn y cyfnod i gynnwys 1 Awst!

Achos mae’r fideo yma gan ddwy o ddisgyblion Ysgol Henry Richard – sydd wedi’i rhyddhau’n ecsgliwsif ar wefan newydd Caron360 – yn werth ei gwylio. Yn enwedig yr wythnos hon, ac yn enwedig os ydych chi’n byw yng nghefn gwlad. Joiwch!

Hoff straeon y tîm – mis Gorffennaf

Stori Covid ddirdynnol, hanes prosiect llesol, atgof o ’Steddfod ’84 a fideo ddireudus am Dregaron!