Weithiau, mae cael haf gwahanol i’r arfer yn cynnig cyfle. Heb eisteddfodau (bach a mawr), heb y cyfle arferol i fynd ar wyliau pell neu fwynhau bwrlwm sioe mewn cae prysur yng nghanol y pentre’, mae cyfle i wneud pethau’n wahanol.
Rhoi sylw i bobol leol yn eu holl amrywiaeth, a hel atgofion melys am ddigwyddiadau – dyna rai o’r cyfleoedd a gymerwyd dros y mis diwethaf gan bobol Arfon a Cheredigion. A beth well na defnyddio eu gwefan fro fel lle i rannu, cofnodi a dathlu?
Dyma ddewis rhai o dîm Bro360 o’u hoff straeon dros y mis diwethaf…
Dewis Guto – Pobol y Dref: Buddug Jones (ar Caernarfon360)
Fideo sy’n edrych ar Gaernarfon o safbwyntiau gwahanol. Dyma safbwynt Buddug Jones, sydd wedi manteisio ar waith y grŵp Cain.
Pobol y Dref – Buddug Jones
Dewis Lowri – Atgofion Eisteddfod Llanbed (ar Clonc360)
Mae criw Clonc360 wedi gwneud gwaith anhygoel yn ysgogi pobol i rannu atgofion am Eisteddfod RTJ Llanbed dros Ŵyl y Banc. Ymhlith y naw, dim llai, o straeon #AtgofLlanbed, dyma ffefryn Lowri – atgofion croten ysgol o’r enw Elin Williams…
#AtgofLlanbed – Yn groten ysgol …
Dewis Lleu – Cyfweliad â Gwion Källmark Williams (ar Ogwen360)
Mae’r gŵr ifanc o Fethesda wedi’i ddewis i hyfforddi gyda charfan Undeb Rygbi Sweden, a chafodd Lleu (sy’n ffan rygbi enfawr!) y cyfle i gyfweld ag ef…
Dewis Dan – Podlediad Gemau Cofiadwy (ar BroAber360)
Ffan pêl-droed yw Dan, felly dyw hi ddim yn syndod iddo fwynhau cyfweliad un o Ohebwyr Bro ieuengaf BroAber360, Gruffudd Huw, â’r awdur a’r cefnogwr brwd Gwynfor Jones.
Gemau Cofiadwy
Dewis Huw – Canwr y cap stabal yn codi calon y Cofis!
Mae Huw Bebb wedi bod yn gweithio rhywfaint fel Gohebydd Bro golwg360, ar leoliad yn nhre’r Cofis dros yr wythnosau diwethaf. Dyma’i hoff stori – sgwrs gyda’r enwog Phil Gas wrth iddo fysgio!