Sut mae gosod y papur bro ar-lein?

Dau gam i’w dilyn i gyhoeddi rhifyn diweddaraf eich papur bro ar-lein

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae Bro360 yn cynnig cyfle i holl bapurau bro Cymru ryddhau eu rhifynnau nesaf ar-lein, a hynny yn rhad ac am ddim!

Mae yna ddau brif opsiwn i’ch papur chi:

  • Cyhoeddi PDF o rifynnau o’r papur bro
  • Cyhoeddi erthyglau unigol
  • (neu y ddau!)

Pa bynnag opsiwn rydych chi am ei dewis, y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw creu cyfrif ar wefan Bro360.cymru yn enw eich papur bro.

Yna, bydd modd i chi lwytho erthyglau/rhifynnau pryd bynnag chi’n dymuno, a bydd modd i chi rannu tudalen eich gwefan fro chi i bawb weld yr erthyglau/rhifynnau i gyd gyda’i gilydd. 

Bydd y dudalen hon yn eistedd wrth ochr tudalen yr holl bapurau bro eraill yng Nghymru sy’n manteisio ar y cyfle hefyd – bydd yn blatfform i bapurau Cymru gyfan.

 

CAM 1 (os nad ydych wedi cyhoeddi yma o’r blaen): CREU CYFRIF 

  • Mynd i bro360.cymru a phwyso’r botwm ‘ymuno’ ar dop y sgrîn

(ddim yn gweld y botwm? mae angen i chi ddefnyddio naill ai porwr Google Chrome, Firefox neu Safari)

  • Creu cyfrif yn enw eich papur bro
  • Cofio cadarnhau eich cyfri, trwy glicio ar linc yn yr ebost a anfonir atoch
  • Rhoi gwybod i Lowri (lowrijones@golwg.cymru) pan fyddwch wedi creu cyfrif, ac anfon logo eich papur (a llun da o’ch bro!) atom ar ebost
  • Os hoffech godi arian ar eich darllenwyr, gallwch gael botwm ’tanysgrifio’. Cysylltwch â Lowri i drafod faint hoffech godi ac i gael cyfarwyddiadau ychwanegol i osod hyn

Os bydd rhywun gwahanol i chi am lanlwytho rhifyn yn y gorffennol, cofiwch basio’r manylion mewngofnodi mlaen atyn nhw.

 

CAM 1 (os ydych yn cyhoeddi rhifyn nesaf eich papur bro ar-lein): MEWNGOFNODI 

  • Ewch i bro360.cymru a phwyso’r botwm mewngofnodi.
  • Defnyddiwch yr un ebost ag o’r blaen i fewngofnodi i gyfrif eich papur bro

Os ydych chi yn Arfon neu ogledd Ceredigion ac yn dymuno cyhoeddi’r rhifyn ar eich *gwefan fro* ac ar wefan Bro360, ewch i’ch gwefan fro i fewngofnodi. Defnyddiwch ebost cyfrif eich papur bro i fewngofnodi.

 

CAM 2: CREU ‘COFNOD’ (lanlwytho PDF)

  • Ewch i Creu > Stori
  • Dewiswch ‘papurau bro’ o’r ddewislen*
  • Nodwch bennawd, ee ‘Rhifyn Medi Papur Bro Aberllan’
  • Pwyswch yr eicon ➕ a lanlwythwch y PDF o’ch cyfrifiadur
  • Prif flwch testun: rhowch restr bwled o bennawdau’r rhifyn, neu grynodeb o beth yw’r cynnwys.
  • Pwyso ‘cyflwyno i’w gyhoeddi’ a ‘cadw newidiadau’

Bydd Lowri o Bro360 yn cael ebost i ddweud eich bod wedi cyflwyno cofnod, ac yna ei gyhoeddi ar eich rhan.

[*os ydych yn gosod y rhifyn ar wefan fro, ac nid ar wefan ganolog Bro360, ni fydd angen dewis ‘papurau bro’ o’r ddewislen]

A dyna ni! Gallwch weld rhifynnau ac erthyglau digidol papurau bro Cymru!

3 sylw

Wilia
Wilia

Rwy’n ceisio clicio ar y safle Youtube ond dim ond eitemau am rygbi, a choginio y galla i eu gweld.
Hwyl!
Heini

Lowri Jones
Lowri Jones

weithiodd hyn yn y diwedd i chi Heini?!

CwmNi
CwmNi

Rhifyn mis Ebrill “Cwmni” Papur Bro Sir Caerffili

Mae’r sylwadau wedi cau.