Er mai prin yw’r gemau chwaraeon lleol, a phrinnach byth yw’r cyfle i gefnogwyr wylio ar yr ystlys, mae un dyn ifanc o Aberystwyth wedi cydio yn y cyfle i wylio ei hoff dîm a dod â’r gêm yn fyw i’r gynulleidfa gartre’.
Bro360 sy’n holi Gruff Huw am y profiad annisgwyl o fynd i wylio Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn ddiweddar, a dod yn Ohebydd Chwaraeon Lleol i BroAber360…
Nawr te, Gruff, faint o ffan pêl-droed wyt ti?
Dwi’n ffan pêl-droed enfawr – dwi ddim yn gallu cael digon ohono fe!
Shwt brofiad oedd bod ar ochr y cae yn gohebu dros y penwythnos, heb gefnogwyr eraill yno?
Profiad od iawn ond roedd hefyd yn fraint gallu gohebu ar y gêm.
Colled yn erbyn Met Caerdydd oedd y gêm gynta i ti ohebu ohoni. Beth oedd y peth mwya cyffrous ddigwyddodd?
Y 10 munud olaf gyda’r Met yn sgorio 2 gôl i ennill y gêm.
Sut lwyddaist ti i gael llun mor dda?
Cymres i lun o bron pob un cornel felly roedd hi ond yn fater o ddewis yr un gorau!
Beth yw’r peth gorau am ddilyn CPD Aberystwyth?
Gweld gymaint o chwaraewyr ifanc yn chwarae a gallu mynd yno ar nos Wener gyda fy ffrindiau.
Pam wyt ti’n meddwl ei bod hi’n bwysig rhoi sylw i gemau pêl-droed lleol?
Os na fydd pobl yn gwylio timau lleol yn chwarae mi fyddant yn cau lawr ac mi fydd rhan o’r gymuned yn cael ei golli.
Dyma 2 adroddiad gêm diweddaraf Gruff Huw i BroAber360:
Cyfle i chi hefyd
Os hoffech fynd i weld eich hoff dîm chwaraeon (pan fyddan nhw’n ôl yn chwarae!) a chreu adroddiadau fel Gruff, neu fideos uchafbwyntiau fel Begw a Now, neu gyfweliadau â chefnogwyr, neu ddiweddariadau byw ar Insta neu Twitter – cysylltwch â post@bro360.cymru i ddarganfod mwy!
Gyda’n gilydd, gallwn roi sylw haeddiannol i chwaraeon lleol ar y lefel bwysicaf un – llawr gwlad.