Wedi mwynhau y fideos, difyr iawn.
Diolch i bobol Dyffryn Nantlle am fywiogi eich gwefan fro heddiw (5 Mehefin 2020) ar ddiwrnod #EinBro.
Dathliad yw #EinBro – dathliad i nodi bod gwefan DyffrynNantlle360 ar ei newydd wedd, ac yn lle hawdd i bawb sy’n byw yn lleol i gyfrannu eu stori.
Erbyn 8pm ar y noson roedd y fideos wedi’u gwylio dros 3,500 o weithiau, a’r ffigurau yn dal i dyfu wrth i’r sesiwn olaf gael ei chyhoeddi!
Dyma bigion y sesiynau trwy gydol y diwrnod. Mwynhewch!
Animeiddio bro: Fideo cŵl am ddylunio ac animeiddio gan Lleucu Non:
Lleucu Non, yr atrist ifanc, yn dangos sut i greu animeiddiad! Dilynwch Lleucu ar instagram – @lleucunon
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Coginio bro: Biscoff blondies gyda Meinir Wyn:
Coginio 'Bisgoff blondies' gyda Meinir.
Dysgwch sut i goginio 'Biscoff blondies' gyda Meinir! Dilynwch instagram @cacennaumeinir er mwyn gweld llwyth o gynnyrch blasus!
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Darlunio bro: Dysgu sut mae rwdlo cymeriadau Gwlad y Rwla, gydag Angharad Tomos
Sesiwn tynnu llun 'Rala Rwdins' gyda Angharad Tomos
Dysgwch sut i dynnu llun Rala Rwdins wrth wylio'r fideo yma gan yr awdures, Angharad Tomos. #EinBro
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Barddoni bro: Cyflwyniad i gynganeddu gan Carwyn Eckley. Ac mae ei enghreifftiau i gyd yn llinellau lleol!
Sesiwn farddoniaeth – Carwyn Eckley
Cyflwyniad i gynghanedd gyda Carwyn Eckley!
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Hanes bro: Criw Treftadaeth Disylw sy’n ein tywys trwy hanes Chwarel Dorothea
Hanes bro: Cynllun sychu Dyffryn Nantlle, gan John Dilwyn
Hanes #EinBro – John Dilwyn Williams
Hanes cynllun sychu Dyffryn Nantlle gan John Dilwyn Williams.
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Cwis bro: Cwis am Ddyffryn Nantlle a cherddoriaeth Gymraeg gan Osian a Hedydd:
Cwis am Dyffryn Nantlle a Cherddoriaeth Cymraeg gyda Osian a Hedydd
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Plant bro: Stori, cân a hwyl i’r plant gyda Chlwb Sblash, gan Trey McCain:
Ymunwch gyda Trey ac Amelia i gael stori, cân, ac i greu!
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Artistiaid bro: Gig ddim-cweit-yn-fyw(!) diwedd y noson gyda rhai o artistiaid y Dyffryn:
Caneuon #EinBro – Artistiaid y Dyffryn
Rhai o ganeuon artistiaid y Dyffryn, sydd wedi cael eu recordio yn ystod y cyfnod o dan glo!
Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020
Ac yn ola, fideo’r criw lleol sy’n esbonio pam eu bod nhw’n cymryd rhan gyda’u gwefan fro:
Diolch i bawb o Ddyffryn Nantlle am gymryd rhan heddiw, a dangos rhywfaint o’r hyn sy’n bosib ar DyffrynNantlle360.