Mae gan bobol Dyffryn Nantlle ffordd newydd o rannu eu straeon. Croeso i DyffrynNantlle360!
Yr wythnos hon, mae llu o bethau’n cael sylw ar DyffrynNantlle360.cymru, i ddangos sut gall gwefan fro gryfhau’r gymuned leol.
Bydd pobol leol hefyd yn dangos sut gallwn ddefnyddio’r cyfryngau digidol yn greadigol yn y Gymraeg.
Her casglu corona-luniau
Un o’r pethau gorau am y wefan yw mai chi – bobol leol – sy’n creu.
Os ydych chi’n byw yn y Dyffryn, ymunwch yn yr hwyl!
Yr her yr wythnos hon yw cyhoeddi eich 3 llun sy’n darlunio cyfnod Covid-19 i chi. Mae’n gyfle i gasglu cofnod gan bobol Dyffryn Nantlle o’r adeg ryfedd hon a’r ffordd mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar eich bywyd.
- ewch i DyffrynNantlle360.cymru a phwyso’r botwm Ymuno i greu cyfrif
- ewch i Creu > Oriel a llwythwch 3 llun sy’n darlunio cyfnod Covid-19 i chi
- pwyswch y botwm cyhoeddi!
Mae pobol ifanc y Dyffryn wedi creu fideo i ddangos i bawb sut gallwch chi fanteisio ar eich lle ar y we!
Sesiynau gan bobol y fro
Ewch ar Ffrwd Diweddaraf y wefan ddydd Gwener os am gael eich diddanu gan amryw o bobol y Dyffryn:
2pm – Darlunio gydag Angharad Tomos
3pm – ‘Clwb Sblash’ i’r plant gyda Trey McCain
4pm – Hanes Chwarel Dorothea gan Treftadaeth Disylw
5pm – Gwers goginio gan Cacennau Meinir
5.30pm – Sesiwn Gelf gan Lleucu Non
6pm – Sesiwn farddoniaeth gan Carwyn Eckley
6.30pm – Hanes #EinBro gan John Dilwyn Williams
7pm – Cwis #EinBro Dyffryn Nantlle gan yr hogia lleol
8pm – Caneuon #EinBro gan artistiaid y Dyffryn