Ddechrau mis Tachwedd dewiswyd 15 person ifanc o ardaloedd Arfon a Cheredigion i gymryd rhan mewn cwrs newydd sbon i feithrin gohebwyr lleol.
Nod cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360 a Golwg oedd buddsoddi yn ein pobol ifanc ac yn ein bröydd, gan roi’r hyder, y gallu, a’r awydd i’r criw o ddarpar-ohebwyr fynd allan i adrodd ar straeon sy’n bwysig i’w bro.
Dros y bum wythnos diwethaf bu’r criw yn cyd-ddysgu gyda rhai o oreuon maes newyddiaduriaeth leol a chenedlaethol – Dylan Iorwerth, Dylan Lewis, Garmon Ceiro, Euros Lewis a Betsan Haf.
Felly, sut brofiad oedd cymryd rhan mewn cwrs newydd sbon fel hwn?
“Rwyf wedi mwynhau creu eitemau i’r wefan fro – o ysgrifennu erthyglau i greu fideo fer. Ar ôl creu storïau ar amryw o gyfryngau dwi wedi adeiladu’r hyder i barhau i greu ar ben fy hun,” medd Cerys Burton o Bonterwyd ger Aberystwyth.
Fel rhan o’r cwrs, bu’r 15 brwd yn cyfrannu erthyglau, fideos, a chyfweliadau i’w gwefan fro. Rhai ohonynt yn cyhoeddi am y tro cyntaf, ac eraill yn aelodau o griwiau llywio eu gwefan fro ac yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu, arbrofi a magu hyder.
Dilynodd y criw nifer o sgwarnogod – o gyfweld â meddyg teulu, i hanes eu clwb pêl-droed lleol, ac o effaith Covid-19 ar eglwys fechan, i drafod buddion nofio yn y môr. Tipyn o amrywiaeth!
Cyfle i rannu newyddion da
“Gall straeon cadarnhaol wneud byd o wahaniaeth i ysbryd pobol a chymunedau. Mae’n ffordd dda o ddod â phobol at ei gilydd, a chreu ymdeimlad o berthyn – rhywbeth sydd ei angen fwy nag erioed nawr” medd Miriam Glyn o Aberystwyth.
Mewn cyfnod pan mae dod o hyd i newyddion da yn beth prin, llwyddodd y gohebwyr ifanc i ddod ar draws straeon cadarnhaol. Cyhoeddodd Miriam ddwy stori am ddwy ferch sydd wedi sefydlu busnes yn eu bro – Allana Spencer gyda chaffi newydd yn Aberystwyth, a Ceri sy’n creu cynnyrch gofal croen gyda’i chwmni ‘Natur’. Mae’n dweud i’r cwrs ei helpu i sylweddoli “mai’r peth pwysicaf yw cyfrannu straeon a sicrhau bod newyddion lleol yn cael ei gyhoeddi.”
Pwysigrwydd siopa’n lleol oedd pwnc stori gyntaf Lisa Tomos o Ddyffryn Ogwen, ac un o’r pethau sydd wedi aros yn y cof iddi yw pwysigrwydd “meddwl yn ddwys am ba stori sydd angen ei dweud.”
Dyna’r her olaf a osodwyd i’r criw – sef meddwl pa stori, o’i gwneud hi, allai ein harwain at wella rhywbeth?
Yr hyder i greu…
Mae Beca Nia, sy’n wreiddiol o ardal Arfon ond bellach yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn teimlo ei bod yn “ffodus o fod wedi cael derbyn cymorth a chyngor gan bobol mor dalentog.”
Dan ofal arbenigwyr, cyflwynwyd y pymtheg i nifer o wahanol agweddau ar newyddiaduriaeth leol – sut i gynnal cyfweliadau, creu stori ar ffurf fideo, tynnu ffotos da, sgwennu stori newyddion, a chael cyngor ar sut i adnabod pa straeon i’w creu.
Roedd y sesiynau yn gyfle i’r criw drafod eu syniadau, a derbyn cyngor ac adborth wrth fynd yn eu blaenau.
“Mae faint o hyder sydd gennyf nawr ers dechrau’r cwrs a chyhoeddi straeon yn anhygoel, a dwi’n teimlo nad yw’n rhywbeth mor frawychus â hynny ddim mwy,” medd Beca.
Straeon gan y gymuned ar gyfer y gymuned
Y ddyletswydd maent yn ei deimlo at eu cymunedau, a’r modd y gall newyddiaduraeth leol gryfhau cymdeithas a chryfhau ein cysylltiad â’n bro, yw’r hyn sydd wedi aros yn y cof i nifer o’r cyw-ohebwyr.
Roedd Megan Turner o Aberystwyth yn creu bod rhoi llais i bobol o bob math yn rhan greiddiol o’r ffordd y gallwn ddatblygu fel cenedl o gymunedau, ac mae “rhoi llais i’r lleol yn mynd â datganoli gam ymhellach, gan greu cyfleoedd i wella dyfodol cymunedau ein gwlad.”
Mae’r criw ifanc yma, sydd wedi cyhoeddi eu straeon cyntaf ar eu gwefan fro, yn awyddus i barhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod llais pobol ifanc yn cael ei glywed.
“Y gwir yw, mae straeon i’w cael o’n cwmpas trwy’r adeg,” meddai Beca Nia. Ac yn wir, straeon lleol yw man cychwyn bron pob stori yn y byd! Gallwn eu hadnabod trwy siarad gyda phobol yn ein milltir sgwâr, a thrwy gadw ein clustiau a’n llygaid ar agor am bethau anarferol, newydd sy’n digwydd o’n cwmpas.
Ers meithrin yr hyder a’r awydd i gyfrannu straeon, mae Beca Nia yn teimlo ei bod yn “ddyletswydd arnom i gryfhau’n cymunedau, ac ers cymryd rhan yn y cwrs dwi rywsut yn teimlo’n agosach at fy un i.”
Ac mae Joseff Owen, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn cytuno: “ceisio gwneud newidiadau lleol yw’r ffordd fwyaf effeithlon o achosi newid yn ehangach, ac mae gan newyddiaduraeth leol rôl enfawr i’w chwarae wrth geisio cryfhau ein cymunedau.”
Gallwch ddarllen, gwrando a gwylio straeon y gohebwyr ifanc yma a llawer mwy o gyfranogwyr lleol ar y 7 gwefan fro – ewch i bori ar Bro360.cymru.