Fe fyddai hi wedi bod gered o gwmpas Tregaron nawr, petai Covid heb ein taro, gyda phobol leol yn rhedeg o un man i’r llall yn paratoi i groesawu Cymru gyfan i’w bro!
Er mai aros blwyddyn fydd raid cyn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dre, nid yw popeth wedi dod i stop. Yr wythnos hon, daeth criw o bobol leol ynghyd (yn ddigidol) i greu gwasanaeth newydd i’r fro gyfan. Gwasanaeth ar-lein i bobol y fro gael rhannu straeon am bopeth sy’n bwysig iddyn nhw.
>>> Mae gwefan straeon lleol Caron360 yn fyw! <<<
Gwefan sy’n berchen i bobol Tregaron a’r cylch yw Caron360. Gall pawb sy’n byw yn yr ardal greu cyfrif, a chreu straeon – o hynt a helynt mudiadau, i newyddion, i drafod pynciau llosg y fro.
Y gymuned leol sy’n creu, golygu a hyrwyddo’r straeon, gyda chymorth gan Ysgogydd prosiect Bro360 a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd, cynnig hyfforddiant ac annog syniadau.
Straeon amrywiol yno’n barod
Nid straeon testun yn unig sy’n bosib. Eisoes dros y diwrnodau diwethaf mae Anna o Ledrod wedi cyhoeddi fideos Sialens Strictly, mae Dan o Langeitho wedi cyhoeddi oriel luniau o’i daith i Ohio, a chyhoeddodd Nest o Ledrod stori am y Tregaroniaid i gael eu derbyn i’r orsedd.
Ar ben hyn, mae ’na dair stori am ymdrechion gwahanol fudiadau ac unigolion i godi arian i achosion da. Mae’r wefan eisoes yn rhoi llwyfan i gyhoeddi cymaint o waith da a phwysig sy’n cael ei wneud gan y gymuned leol.
Eich gwefan chi – y bobol leol
Mae’r wefan bellach yn barod i dderbyn eich straeon chi!
Beth sy’n digwydd yn y fro… neu beth sydd ar y gweill wrth i’r cyfyngiadau lacio? Oes materion lleol sydd angen eu trafod? Oes ’na gyfle i ddathlu llwyddiannau lleol?
Os nad ydych am greu straeon, mae ’na ffyrdd eraill y gallech gymryd rhan. Gallwch ymuno â’r tîm trwy helpu i rannu straeon a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’r fro. Neu a ydych chi’n gwybod be sy mlaen yn lleol, ac yn nabod pobol eraill allai fod yn creu stori fach? Croeso i chi helpu yn y modd hwnnw hefyd!
Cysylltwch â Daniel – Ysgogydd Bro360 yn ardal Ceredigion – ar danieljohnson@golwg.com i roi gwybod bod gennych ddiddordeb mewn manteisio ar y cyfrwng newydd cyffrous yma.
Maes o law, bydd y wefan yn datblygu’n blatfform i hyrwyddo busnesau lleol hefyd – i roi arfau digidol fydd yn helpu busnesau bach gystadlu â’r busnesau mawrion ar-lein, a chryfhau’r economi leol.
Ble yw bro Caron360?
Ar ôl hir drafod, penderfynodd y criw lleol mai rhywbeth tebyg i hyn yw siap y fro. Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn, dyma’ch gwefan fro chi!
- Bethania
- Blaenpennal
- Bronant
- Bwlch-llan
- Ffair-rhos
- Gwnnws
- Llanddewi Brefi
- Llangeitho
- Llanio
- Lledrod
- Llwynpiod
- Llwynygroes
- Penuwch
- Pont-rhyd-y-groes
- Pontrhydfendigaid
- Swyddffynnon
- Tregaron
- Tynygraig
- Ysbyty Ystwyth
- Ystradmeurig
Sut mae creu stori?
- Mynd i Caron360.cymru a phwyso’r botwm Ymuno (i greu cyfrif)
- Pwyso Creu > Stori (neu oriel, fideo neu sain)
- Sgwennu pennawd, pwt o stori a lanllwytho eich llun(iau), fideos ac ati
- Pwyso’r botwm ‘cyflwyno i’r gyhoeddi’
- Cewch neges ebost i ddweud pan fydd eich stori’n fyw ar Caron360!
Mae Caron360 yn ymuno â chwe gwefan arall yng Ngheredigion ac ardal Arfon sy’n rhan o brosiect peilot Bro360 – BroAber360, BroWyddfa360, Caernarfon360, Clonc360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.