gan
Lowri Jones
Pan ddaw’r argyfwng i ben, beth sy’n debygol o ddigwydd? Mynd nôl i fel oedd pethe (neu waeth) neu newid er gwell?
P’un fydd hi?
Gwahoddiad yw hwn i chi ymuno â sgwrs Prosiect Fory gogledd Ceredigion.
Dewch i ddychmygu’r dyfodol (ac wedyn, ei greu).
Nos Fercher 10 Mehefin am 8pm ar Zoom
Dyma’n cyfle i ddefnyddio’r cyfnod hwn i edrych o heddi yr argyfwng tuag at fory’r hyn a allai fod.
Am gymryd rhan? Ebostiwch lowrijones@golwg.com i gael y cod Zoom i ymuno – mae’n well ein bod yn casglu enwau pobol er mwyn ech gadael chi mewn!
Dyma’r ddolen i’r Zoom, a’r cyfrinair yw: un tri tri tri dim chwech
Mae Prosiect Fory yn gydweithrediad rhwng Bro360 a Radio Beca – mentrau sy’n gweithredu fel cyfrwng i wneud gwahaniaeth yn ein bröydd.