Dros yr wythnosau’n arwain at y ’Dolig bydd cyfres o bodlediadau’n ymddangos gan Bro360, i glywed stori busnesau annibynnol sydd wedi mentro yn ystod cyfnod y pandemig.
Gohebydd lleol golwg360, Shân Pritchard, sy’n cyflwyno’r gyfres Blas o’r Bröydd.
Bydd yn sgwrsio â pherchnogion busnesau bwyd a diod o Ddyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris a Cheredigion wrth geisio darganfod beth sydd wedi eu cymell i fentro ar gyfnod mor ansicr.
Y rhifyn cynta’
Mae cwmni Poblado wedi mentro i ddarparu mwy na llymaid o goffi – mae wedi cynnig cyfleoedd i’r gymuned ddod ynghyd gyda sesiynau ioga a cherddoriaeth fyw yn yr awyr agored hefyd yn y caffi yn Nyffryn Nantlle.
Y sylfaenydd Steffan Huws sy’n cadw cwmni i Shân yn pod cynta’r gyfres – Graen o goffi.
Mae straeon a hanesion difyr iawn i ddod – am gwmni cwrw sy’n lansio lagyr newydd, ffermwyr ifanc sy’n mynd â llaeth yn syth o’r fuwch at y cwsmer, cwmni sy’n credu’n gryf mewn cynhyrchu caws yn y modd traddodiadol, a busnes bach sydd wedi gweld eu pitsas yn fflïo allan i gartrefi pobol!
Mae Blas o’r Bröydd ar gael ar Spotify, Google ac Apple Podcasts, Anchor, Y Pod ac yn y mannau arferol.
Tanysgrifiwch, dilynwch a rhannwch – efallai y cewch chi eich ysbrydoli i fentro!