Mae gwefan fro yn lle delfrydol i rannu straeon sy’n bwysig yn lleol.
Ddoe, cyhoeddwyd blog hanes gan Aled Morgan Hughes ar BroAber360, sy’n ymchwilio i ymateb Aberystwyth i her Ffliw Sbaen.
Dridiau’n ôl, yn fyw o’r digwyddiad, cyhoeddwyd lluniau o brotest heddychlon #BlackLivesMatter yn Aberystwyth.
A’r wythnos diwethaf cyhoeddwyd enw pencampwyr Cynghrair Pêl-droed y Cambrian Tyres, er na lwyddwyd i orffen y tymor oherwydd yr argyfwng.
Ond mae eich gwefan fro yn FWY na lle i rannu straeon yn unig.
Marchnad a mwy
Yr wythnos hon, bydd llwyth o bethau gwahanol yn cael eu creu dan faner BroAber360 – er mwyn dangos yr amrywiaeth sy’n bosib gyda’r gwasanaeth newydd yma.
Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yw y bydd BroAber360 yn troi i mewn i siop ddydd Gwener! Gallwch brynu gan lu o grefftwyr lleol yn y farchnad ddigidol.
Bydd busnesau a chrefftwyr lleol yn hollbwysig i’n cymdeithas wrth i ni ddod mas o’r argyfwng. Dyma ein cyfle i ddefnyddio’r we i’w cefnogi nhw, a chadw’r economi leol i droi mewn cyfnod mor ansicr.
Sail yr wythnos gyfan yw mai chi sy’n cymryd rhan – pobol gogledd Ceredigion fydd yn llywio’r wythnos. Yn gwylio’r fideos ac yn darllen y straeon – ie – ond hefyd yn cyfrannu at y creu.
Dyma’r cyfleoedd i gymryd rhan:
- Rydym am gasglu hoff eiriau tafodieithol y fro. Rhannwch eich hoff air a disgrifiad bach ohono ar Twitter, Instagram neu Facebook gyda’r hashnod #EinBro.
- O fory ymlaen gallwch roi sylw ychwanegol i fusnesau bach y fro. Tagiwch eich hoff gwmnïau ar Insta-stori a phasio’r her ymlaen i ffrindiau.
- Bydd pethau ddim yr un fath ar ôl y coronafeirws. Bydd nos Fercher yn gyfle i ni ddychmygu’r dyfodol, mewn sgwrs ar Zoom. Pa fath o gymdeithas ydym ni am ei gweld ar ôl yr argyfwng? Ebostiwch post@bro360.cymru i gael cod i’r sgwrs Zoom.
- Bydd modd i chi gymryd rhan mewn reid seiclo ddychmygol gyda’r pencampwr Gruff Lewis ddydd Gwener, a phaentio gyda Teilo gyda’r nos.
Dyma amserlen dydd Gwener yn llawn:
10am Reid ddigidol – Gŵyl Seiclo Aber
2pm Creu pypedau – Arad Goch
3pm tan 8 Ffair Grefftau – Crefftwyr Aberystwyth
4pm Hanes Soar y Mynydd – Gwilym Jenkins
5.15pm Yn Un Rhith – Côr ABC
6pm Hunan-dylino – Alexis Flores Williams
7pm Cyflwyniad i gelf haniaethol – Teilo Trimble
8pm Set byw gan Bwca