Mae Bro360 yn falch o gyhoeddi ein bod yn noddi cynllun arloesol i greu siaradwyr Cymraeg newydd yng Ngheredigion.
Gyda blwyddyn anarferol o flaen cymunedau’r sir, gan y bydd yn rhaid aros tan haf 2021 i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol, mae cynllun cyffrous ar droed i sicrhau bod yr ŵyl yn gadael gwaddol yn y sir sy’n gwesteio.
Pwyllgor Dysgu Cymraeg lleol yr ŵyl sydd y tu ôl i’r cynllun ‘Byddwch yn Un o’r Miliwn’ – cynllun sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr Cymraeg brwd gael cefnogaeth aelodau’r pwyllgorau apêl lleol, wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu’r iaith dros y flwyddyn nesaf.
Defnyddio’r flwyddyn anarferol hon o fwlch fel cyfle yw’r nod. Mae pobol y sir wedi cyrraedd y targedau codi arian, felly dyma gyfle unigryw i ddefnyddio’r flwyddyn nesaf i ‘mestyn mas i’r di-Gymraeg a denu mwy o ddysgwyr i fod yn rhan o fwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â gadael marc ar y bröydd lleol.
“Y nod yw denu dysgwyr i gychwyn a pharhau â gwersi Cymraeg yn y gobaith y byddan nhw’n barod i weithio ar y maes y flwyddyn nesaf, gyda hyn yn rhoi hwb iddyn nhw barhau gyda’r dysgu,” medd Medi James, Cadeirydd y Pwyllgor Dysgu Cymraeg.
Gan fod datblygu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr yn rhan greiddiol o waith Bro360, rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r cynllun arloesol yma. Nid yn unig er mwyn rhoi’r cyfle i bobol ddysgu’r Gymraeg, ond hefyd i roi rheswm iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg sy’ ‘da nhw ar eu gwefan fro. Dros y misoedd nesaf a thu hwnt, bydd modd i bawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun – y dysgwyr a’r pwyllgorau lleol – rannu eu straeon a’u profiadau ar BroAber360, Caron360 a Clonc360.
Os bydd y cynllun yn llwyddo, gallai ddatblygu’n fodel i ardaloedd eraill ei ddilyn mewn blynyddoedd i ddod, gan greu gwaddol go iawn i’r ŵyl genedlaethol yn ein cymunedau.
Noddir y cynllun ‘Byddwch yn Un o’r Miliwn’ gan Bro360 ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Gellir cael mwy o wybodaeth yma neu gan Medi James: 07855 491 022 / medijames22@gmail.com.