Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Nid yn unig y ces i’r fraint o weld fy merch yn cael ei hurddo i’r Orsedd yn Aberystwyth ond mi drefnais rhaglen wythnos ar gyfer pabell Dyfed, cynhyrchu cyflwyniad i’r Babell Lên a drama yn Theatr Felinfach gan weithio hefo nifer fawr o bobl creadigol. Wythnos i’w chofio!
— Gareth William Jones (@GarethWilliam) August 5, 2020
Os ydych wedi landio ar wefan Bro360 am y tro cynta, i fwynhau #AtgofGen, cofiwch fynd i bori ymhellach ar ôl bennu gyda’r atgofion.
Mae #AtgofGen yn brosiect bach all roi blas i bawb yng Nghymru o beth yw diben Bro360 – sef rhoi platfform i chi, y bobol, creu a rhannu eich straeon.
Prif waith Bro360 yw gweithio gyda chymunedau mewn 2 ardal (Arfon a Cheredigion) i greu a chynnal gwefannau sy’n llawn straeon difyr, amlgyfrwng, gan y bobol.
Mae 7 gwefan fro i’w cael – ewch i gael cip!
BroAber360 (gogledd Ceredigion) | BroWyddfa360 | Caernarfon360 | Caron360 (ardal Tregaron) | Clonc360(ardal Llanbed) | DyffrynNantlle360 | Ogwen360
Dyma bwt bach am ddatblygiadau Bro360 yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Atgofion braf o Gasnewydd…
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004 #atgofgen @bro360 Mentrau Iaith
Posted by Penri Williams on Thursday, 30 July 2020
Tybed pwy yw’r rhain?
#AtgofGen Aberystwyth 1992@CardiDa @EmyrP_E @Heddwen18 @GarethWilliam https://t.co/y0JZDPegOl pic.twitter.com/rKaO34sYbG
— BroAber360 (@BroAber_360) August 5, 2020
…ac ymateb Aled Hall i weld y llun diwetha’ ’na
Iaaaaasu ‘na gymeriad…. Wyn bach y glo ??
Grêt o lun boi??— Aled Hall ??????? (@AledHall) August 5, 2020
Llun arbennig gan Emyr Lyn. Oeddech chi’n un o’r plant yn Eisteddfod ’52? Diolch am gyfrannu!
Ffeindio hwn . . cerdyn llun wrth Wyn ( Wyn bach y glo , Llandysul yn y cefn i'r dde ) o Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 #esteddfod2021 @Ceredigion2020 #Eisteddfod pic.twitter.com/oUvziHvsU1
— Emyr Lyn (@emlynevan) August 5, 2020
“Y pafiliwn, a fan Vauxhall Viva. Roedd hi’n rocio yn ’82”
Diolch am y lluniau, Iestyn!
#AtgofGen @BroAber_360 Ychydig o luniau gen i o eisteddfodau (symudwch y saeth ymlaen (i'r dde) > https://t.co/N4WyuUTJ9G
— Iestyn Hughes (@Traedmawr) August 3, 2020
Pwy sy’n cofio Caleb a’r Dŵ-lals yn Aberteifi yn 76?!
#AtgofGen @Bro__360 @BroAber_360
Uchafbwynt yr Wythnos: Caleb a'r Dw-Lals!!
10.30 Nos Fercher 4 Awst 1976. pic.twitter.com/AqH4hZBfbn
— Hanes Aberteifi (@HanesAberteifi) August 3, 2020
Yr atgof cyntaf o Abertawe 2006
Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 #atgofgen Bro360
Posted by Penri Williams on Tuesday, 4 August 2020
“Cofiaf wylio fy ‘ffans’ ar y galeri – mam, dad, mam-gu ac Anti Enfys – y menywod yn ymdrechu i gael lluniau da gyda’u camerâu disg simsan yr olwg a dad ag anferth o gamera fideo yn pwyso ar ei ysgwydd. Wyddwn i ddim tan ar ôl y seremoni fod dad wedi bod yn sefyll ar sgert Anti Enfys drwy’r seremoni, a hithau druan yn ceisio tynnu lluniau a rhyddhau ei hun o sodlau trwm dad am yn ail!”
Diolch i Angharad Edwards am ei hatgofion melys i ’92!
Mwy ar wefan fro gogledd Ceredigion, BroAber360 ?
Atgofion Eisteddfod ’92