#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

14:37

Mae ’na rai yn darogan y bydd Eisteddfod Ceredigion 2021 (erbyn hyn!) yn Nhregaron yn un o’r gorauon. Pam? Am y bydd wedi’i lleoli yng nghanol tre fach yng nghanol y wlad.

Tebyg i Steddfod Llanbed 84. Mwy o hanesion o’r fan honno ar Clonc360 ?

#AtgofGen Paratoi ar gyfer Gŵyl Genedlaethol mewn Tref Fach

Dylan Lewis

Braslun o hanes paratoadau Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

 

Mae un peth yn wir. Bydd gwefan fro newydd sbon Caron360 yn llawn dop o stwff erbyn Awst 2021!

14:32

14:30

Os ydych wedi landio ar wefan Bro360 am y tro cynta, i fwynhau #AtgofGen, cofiwch fynd i bori ymhellach ar ôl bennu gyda’r atgofion.

Mae #AtgofGen yn brosiect bach all roi blas i bawb yng Nghymru o beth yw diben Bro360 – sef rhoi platfform i chi, y bobol, creu a rhannu eich straeon.

Prif waith Bro360 yw gweithio gyda chymunedau mewn 2 ardal (Arfon a Cheredigion) i greu a chynnal gwefannau sy’n llawn straeon difyr, amlgyfrwng, gan y bobol.

Mae 7 gwefan fro i’w cael – ewch i gael cip!

BroAber360 (gogledd Ceredigion) | BroWyddfa360 | Caernarfon360 | Caron360 (ardal Tregaron) | Clonc360(ardal Llanbed) | DyffrynNantlle360 | Ogwen360

Dyma bwt bach am ddatblygiadau Bro360 yn ystod cyfnod y coronafeirws.

14:25

Atgofion braf o Gasnewydd…

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004 #atgofgen @bro360 Mentrau Iaith

Posted by Penri Williams on Thursday, 30 July 2020

 

14:25

Tybed pwy yw’r rhain?

 

14:24

…ac ymateb Aled Hall i weld y llun diwetha’ ’na

 

14:23

Llun arbennig gan Emyr Lyn. Oeddech chi’n un o’r plant yn Eisteddfod ’52? Diolch am gyfrannu!

 

14:22

“Y pafiliwn, a fan Vauxhall Viva. Roedd hi’n rocio yn ’82”

Diolch am y lluniau, Iestyn!

 

14:20

Pwy sy’n cofio Caleb a’r Dŵ-lals yn Aberteifi yn 76?!

14:18

Yr atgof cyntaf o Abertawe 2006

Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 #atgofgen Bro360

Posted by Penri Williams on Tuesday, 4 August 2020