#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

14:23

Llun arbennig gan Emyr Lyn. Oeddech chi’n un o’r plant yn Eisteddfod ’52? Diolch am gyfrannu!

 

14:22

“Y pafiliwn, a fan Vauxhall Viva. Roedd hi’n rocio yn ’82”

Diolch am y lluniau, Iestyn!

 

14:20

Pwy sy’n cofio Caleb a’r Dŵ-lals yn Aberteifi yn 76?!

14:18

Yr atgof cyntaf o Abertawe 2006

Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 #atgofgen Bro360

Posted by Penri Williams on Tuesday, 4 August 2020

 

14:12

“Cofiaf wylio fy ‘ffans’ ar y galeri – mam, dad, mam-gu ac Anti Enfys – y menywod yn ymdrechu i gael lluniau da gyda’u camerâu disg simsan yr olwg a dad ag anferth o gamera fideo yn pwyso ar ei ysgwydd. Wyddwn i ddim tan ar ôl y seremoni fod dad wedi bod yn sefyll ar sgert Anti Enfys drwy’r seremoni, a hithau druan yn ceisio tynnu lluniau a rhyddhau ei hun o sodlau trwm dad am yn ail!”

Diolch i Angharad Edwards am ei hatgofion melys i ’92!

Mwy ar wefan fro gogledd Ceredigion, BroAber360 ?

Atgofion Eisteddfod ’92

Angharad Eleri Edwards

Atgofion Telynores Faenor yn ymuno â’r Orsedd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Aberystwyth 1992.

 

14:10

Atgofion unigryw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith ’84 sydd nesa – diolch Goronwy Evans.

Mae’n cofio’r codi bwganod gan rai o wrth-Eisteddfodwyr y cyfnod yn lleol hefyd!

Ni fyddai’n ddiogel i neb gerdded strydoedd y dref ar ben ei hun, wedi nos yn ystod wythnos yr Eisteddfod; Ni fyddai’r un ffenest yn gyfan yn y dref erbyn diwedd yr wythnos;

Byddai’n berygl einioes i fod yn agos i Heol y Bryn ar nosweithiau pan fyddai Twrw Tanllyd yn Neuadd Fictoria; ac ni fyddai’n ddiogel i fynd ar gyfyl y Maes Carafannau wedi nos.

Mwy ar Clonc360 ?

#AtgofGen Sylwadau Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith

Goronwy Evans

Ambell i atgof o Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

 

14:02

Atgof bach am berson bach yn Aberdâr…

 

14:02

Neu oes gennych gof plentyn o’ch gŵyl gyntaf, pan fuodd hi lawr yr hewl?

Cyfrannwch fel wnaeth Delyth!

 

14:01

Ydych chi’n cofio gweithio neu wirfoddoli ar stondin, pan ddaeth y Steddfod i’ch milltir sgwâr?

Rhannwch y profiadau a’r straeon gydag #AtgofGen heddiw!

 

14:00

Llun bach arall gan Ann Barlow. Diolch am gyfrannu trwy Twitter #AtgofGen!