Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!
Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.
Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!
Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.
Llun arbennig gan Emyr Lyn. Oeddech chi’n un o’r plant yn Eisteddfod ’52? Diolch am gyfrannu!
Ffeindio hwn . . cerdyn llun wrth Wyn ( Wyn bach y glo , Llandysul yn y cefn i'r dde ) o Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 #esteddfod2021 @Ceredigion2020 #Eisteddfod pic.twitter.com/oUvziHvsU1
— Emyr Lyn (@emlynevan) August 5, 2020
“Y pafiliwn, a fan Vauxhall Viva. Roedd hi’n rocio yn ’82”
Diolch am y lluniau, Iestyn!
#AtgofGen @BroAber_360 Ychydig o luniau gen i o eisteddfodau (symudwch y saeth ymlaen (i'r dde) > https://t.co/N4WyuUTJ9G
— Iestyn Hughes (@Traedmawr) August 3, 2020
Pwy sy’n cofio Caleb a’r Dŵ-lals yn Aberteifi yn 76?!
#AtgofGen @Bro__360 @BroAber_360
Uchafbwynt yr Wythnos: Caleb a'r Dw-Lals!!
10.30 Nos Fercher 4 Awst 1976. pic.twitter.com/AqH4hZBfbn
— Hanes Aberteifi (@HanesAberteifi) August 3, 2020
Yr atgof cyntaf o Abertawe 2006
Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 #atgofgen Bro360
Posted by Penri Williams on Tuesday, 4 August 2020
“Cofiaf wylio fy ‘ffans’ ar y galeri – mam, dad, mam-gu ac Anti Enfys – y menywod yn ymdrechu i gael lluniau da gyda’u camerâu disg simsan yr olwg a dad ag anferth o gamera fideo yn pwyso ar ei ysgwydd. Wyddwn i ddim tan ar ôl y seremoni fod dad wedi bod yn sefyll ar sgert Anti Enfys drwy’r seremoni, a hithau druan yn ceisio tynnu lluniau a rhyddhau ei hun o sodlau trwm dad am yn ail!”
Diolch i Angharad Edwards am ei hatgofion melys i ’92!
Mwy ar wefan fro gogledd Ceredigion, BroAber360 ?
Atgofion Eisteddfod ’92
Atgofion unigryw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith ’84 sydd nesa – diolch Goronwy Evans.
Mae’n cofio’r codi bwganod gan rai o wrth-Eisteddfodwyr y cyfnod yn lleol hefyd!
Ni fyddai’n ddiogel i neb gerdded strydoedd y dref ar ben ei hun, wedi nos yn ystod wythnos yr Eisteddfod; Ni fyddai’r un ffenest yn gyfan yn y dref erbyn diwedd yr wythnos;
Byddai’n berygl einioes i fod yn agos i Heol y Bryn ar nosweithiau pan fyddai Twrw Tanllyd yn Neuadd Fictoria; ac ni fyddai’n ddiogel i fynd ar gyfyl y Maes Carafannau wedi nos.
Mwy ar Clonc360 ?
#AtgofGen Sylwadau Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith
Atgof bach am berson bach yn Aberdâr…
Dyma gipolwg arall yn ôl ar un arall o Eisteddfodau’r gorffennol, y tro hwn gyda llun o Geraint Davies yn dair a hanner oed yn gafael mewn ffon ar faes Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1956.https://t.co/7lALT7knv1
Trwy Geoff Charles/ @LLGCymru @eisteddfod #steddfodAmGen pic.twitter.com/0ujnxSOci3— Casgliad y Werin Cymru (@casgliadywerin) August 2, 2020
Neu oes gennych gof plentyn o’ch gŵyl gyntaf, pan fuodd hi lawr yr hewl?
Cyfrannwch fel wnaeth Delyth!
Oni bai am y coronavirus byddem ni nawr yn dechre ar wythnos fisi yn @Eisteddfod @ceredigion2020 Tregaron. Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 1984 oedd fy mhrofiad cyntaf o'r Genedlaethol – ac i blentyn 5 oed, swing Superted oedd y peth gorau am y brifwyl! #AtgofGen pic.twitter.com/h4qmpQV6hg
— Delyth G M Phillips (@DelythPhillips) August 1, 2020
Ydych chi’n cofio gweithio neu wirfoddoli ar stondin, pan ddaeth y Steddfod i’ch milltir sgwâr?
Rhannwch y profiadau a’r straeon gydag #AtgofGen heddiw!
Stondin Ysgol Penweddig yn Eisteddfod #Aberystwyth 1992#AtgofGen #steddfodamGen @Bro__360 @BroAber_360 @eisteddfod @Penweddig @YsgolPenweddig pic.twitter.com/XuUkYUEdFY
— Heather Williams (@HeatherHMW) August 1, 2020
Llun bach arall gan Ann Barlow. Diolch am gyfrannu trwy Twitter #AtgofGen!
Tebyg nad wyt ti'n cofio'r steddfod yma @GwenMairi Llambed 1984 #AtgofGen pic.twitter.com/Z4o6j8HzC3
— Ann Barlow (@heulwenann) August 1, 2020