Yn lle bod ambell berson yn creu lot – beth am gael lot o bobol yn creu ambell beth?
Yn lle disgwyl i straeon ddod – beth am fynd ar ôl straeon difyr na fyddai fel arall yn gweld golau dydd?
Yn lle digalonni nad yw’r pethau sy’n bwysig yn eich milltir sgwâr chi’n cael sylw – beth am ddefnyddio eich arbenigedd a’ch cysylltiadau lleol i ohebu?
Gall eich gwefan fro fod yn llawn straeon gan bobol eich milltir sgwâr.
Sut mae annog pobol eraill i greu?
Oes gennych chi syniad am stori, a syniad am berson lleol allai fod yn ei chreu?
Ewch ati i’w hannog a’u hysgogi, gan roi llais i fwy o bobol leol.
Dyma rai tips gan bobol yn y bröydd sy’n siarad o brofiad – maen nhw wedi perffeithio’r sgil o ysgogi pobol eraill i greu…
Cael y syniad am stori
- Fe fyddwch yn cael syniadau am straeon wrth fyw bywyd pob dydd yn y gymuned leol… wrth gerdded lawr y stryd, mynychu mudiadau a digwyddiadau, a chwrdd â phobol yn y siop neu’r dafarn leol.
- Mae’n syniad da cadw llygad ar gyfryngau cymdeithasol hefyd – defnyddiwch eich cyfri personol neu gyfrif y wefan fro i ddilyn pobol a mudiadau lleol, creu rhestrau Twitter a chadw llygad ar y sgwrs mewn grwpiau Facebook.
- Wrth fynd o gwmpas y lle neu sgrolio ar eich ffôn, cadwch eich clustiau a’ch llygaid yn agored am stori – mae’n syndod faint o newyddion sy’n dechrau fel sgyrsiau bach, anffurfiol.
- Beth am gynnal Sgrym Straeon i drafod y sïon a’r syniadau? Mae cwrdd fel criw yn eich helpu i feddwl mas o’r bocs!
- Mae meddwl am thema yn syniad er mwyn denu llawer o straeon sy’n gysylltiedig ag un peth amserol, yn enwedig os yw’n gyfnod tawel, e.e. cyfres o straeon #AtgofLlanbed ar Clonc360 (yn ystod y penwythnos y byddai Eisteddfod Llanbed wedi bod mlaen) neu fynd ar ôl straeon am brofiadau pob math o bobol i gyd-fynd â 6 mis ers dechrau’r Cyfnod Clo.
‘Nabod y person iawn i’r stori
- ‘Nabod pobol leol allai fod yn creu yw’r peth pwysicaf.
- Mae’n haws cael perswâd ar bobol rydych yn eu hadnabod – felly mae cael tîm o bobol leol yn ysgogi yn help mawr. Mae pobol yn llai tebygol o ddweud ’na’ wrth bobol maen nhw’n eu ’nabod!
- Mae holi’n uniongyrchol i bobol greu stori benodol yn gweithio’n llawer gwell na rhoi cais cyffredinol am stori ar gyfryngau cymdeithasol.
- Wrth annog person i greu ei stori gyntaf, dewiswch stori y mae ganddo wir ddiddordeb ynddo – bydd yn fwy tebygol o fod ar dân am ei rannu!
- Pobol dda i greu stori am lwyddiant, neu newyddion da, yw’r rhai sy’n falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni – gall hynny fod yn aelod neu arweinydd yn y mudiad/clwb, neu ffrind/perthynas sydd am ganmol unigolyn arall.
Perswadio!
Dyw cyfradd llwyddiant ysgogydd ddim yn 100%, a bydd rhai pobol ddim am gyfrannu er gwaethaf eich ymdrechion glew… ond mae ‘na ffyrdd o berswadio pobol, trwy:
- “paid poeni am iaith” – mae golygyddion lleol y wefan yn mynd i edrych ar y stori cyn ei chyhoeddi.
- “sdim rhaid sgwennu” – beth am greu fideo neu rannu lluniau?
- “mae creu yn hawdd” – rhannwch y jpeg 5 cam (sydd ar waelod y sgrîn)
- “ti yw’r boi i greu hwn!” – esbonio wrth yr unigolyn nad oes neb wedi rhoi sylw i’r mater, ac mae ef/hi yw’r person gorau i wneud!
- anfon dolen i’r stori ddiwethaf iddyn nhw ei chyfrannu, neu dolen i’r wefan fro i weld esiamplau eraill
- “beth am wneud e fel hyn?” – cynnig arweiniad, dim ond os oes angen
- Os yw’r unigolyn yn hapus i ddweud ei stori ond ddim yn hyderus yn creu, beth am gyfweld â’r person eich hunan?
Esbonio pa mor hawdd yw e
Gan fod y wefan wedi datblygu i fod MOR hawdd ei defnyddio, dim ond 5 cam sydd angen i bawb gymryd i greu eu stori gynta:
- Mynd i’r wefan fro ac Ymuno (sydd ond cyn cymryd 37 eiliad!) neu fewngofnodi trwy Facebook
- Mynd i Creu > Stori
- Sgwennu yn y blychau (pennawd, cyflwyniad a thestun) a phwyso’r botwm + i ddewis llun o’ch teclyn/cyfrifiadur
- Pwyso + eto i ychwanegu mwy o luniau, fideo neu drac sain (hyd at 20)
- Pwyso barod i’w gyhoeddi a cyhoeddi newidiadau
Mae e wir mor hawdd â hynny!
Dyfal donc
Unwaith y byddwch wedi perswadio rhywun i gyhoeddi ei stori gyntaf, gobeithio y bydd yn cael hwyl arni ac yn gweld pa mor hawdd yw creu, a bydd creu yn dod yn arfer iddo. Ond ar gyfer y gweddill…
- Bydd angen atgoffa ambell un, neu holi ydyn nhw eisiau cymorth
- Peidiwch â digalonni os na ddaw cyfraniadau’n syth!
- Byddwch yn falch o bob llwyddiant, trwy rannu a ’diolch’ ar eich hoff straeon ar eich gwefan fro.