Bobol… mae hi wedi bod yn flwyddyn od.
Yr adeg hon llynedd roedd pawb yn ei chanol hi gyda chyngherddau, plygeiniau a miri arferol yr ŵyl, ac yn barod am bach o hoe er mwyn wynebu degawd newydd yn llawn egni. Ac roedden ni’r Cardis yn seico ein hunain lan i groesawu’r Eisteddfod fowr i’n sir!
Ar ddechrau Ionawr 2021 fe welsom ni yn Bro360 frwdfrydedd o’r newydd gan bobol yn ardaloedd Ceredigion ac Arfon – roedd y gwefannau bro wedi newid gêr, y straeon amrywiol yn dechrau llifo, a chyfranogwyr newydd yn dod o bob cyfeiriad. Roedd pethau’n symud…
Mae’n rhyfedd mor glou mae pethau’n gallu newid!
Er yr ansicrwydd, y pryder a’r siomedigaethau sydd wedi dod yn sgil y pandemig, fe wnaeth pawb droi ein golygon at ein milltir sgwâr yn ystod y cyfnodau clo (neu’r 5 milltir sgwâr, fel oedd hi am gyfnod!), ac fe welsom ni wir werth y gymdeithas leol rydym yn rhan ohoni…
> Gwelsom griwiau o wirfoddolwyr yn torchi llewys er mwyn gwasanaethu’r henoed a’r bregus (nid mewn un neu ddau bentre’, ond ar draws y genedl gyfan)…
> Gwelsom bobol yn troi i gefnogi mwy o fusnesau bach yn eu bro, a chymaint o gwmnïau’n addasu a chydweithio…
> Gwelsom fudiadau, corau a chapeli (ie, capeli!) yn ymdopi trwy droi at y sgrîn i ateb yr ysfa i ddod ynghyd a chadw cysylltiad…
> a gwelsom gwisiau zoom. O do, sawl cwis zoom!
Yn groes i’r ofnau, ffynnu, nid straffaglu, wnaeth y gwefannau bro yn 2020.
Efallai am fod pobol yn dibynnu mwy ar newyddion a gwybodaeth am eu milltir sgwâr… efallai am fod pobol yn fwy hyderus i ddarllen, gwylio a chreu ar y we… neu efallai am bod pobol angen straeon newyddion da a straeon am bobol, er mwyn cynnal yr ysbryd a’r ymdeimlad o berthyn.
Beth bynnag oedd y rheswm, ffynnu wnaeth y gwefannau bro. Cymaint, nes ein bod wedi dechrau’r flwyddyn â 4 gwefan a’i gorffen gyda 7! Cyhoeddwyd dros 1230 o straeon yn 2020, ac erbyn hyn mae ’na 438 o gyfranogwyr llawr gwlad, rhwng yr holl wefannau.
Bu i ni estyn llaw o gymorth i’r papurau bro allu cyhoeddi ar-lein yn ystod yr argyfwng hefyd. Bellach, mae dros 140 rhifyn ar wefan Bro360, a mwy yn ymddangos bob wythnos.
Anhygoel.
Ac mae’r cyfan diolch i bobol yn y bröydd, am greu.
Y ’digwyddiad’ olaf i fi ei fynychu gyda’r gwaith yn 2020 oedd cyfarfod i bapurau bro Cymru, yng nghwmni’r darlledwr Huw Edwards fel siaradwr gwadd.
Mae ei eiriau e’, fel un o’r darlledwyr mwyaf uchel ei barch yng Nghymru, yn dal i asteinio yn fy mhen – “mae newyddion lleol yn wasanaeth cymdeithasol – mae’n cynnig gwerth i bobol.” A’i her e i bob bro oedd manteisio ar y we i gyrraedd y gynulleidfa, ac i wneud gwahaniaeth go iawn i’n cymunedau ac i ddemocratiaeth.
Felly, beth am 2021?
Wel, ein gobaith yw cynnal ‘gwobrau mawreddog y gwefannau bro’, a bydd cyfle i chi bleidleisio am eich hoff straeon lleol ddechrau Ionawr.
Byddwn hefyd yn adeiladu ar lwyddiant y Cwrs Gohebwyr Ifanc trwy lansio prosiect democratiaeth, yn barod ar gyfer etholiadau’r Senedd, ac rydym yn cynnig sesiwn am ddim i fudiadau ac ysgolion o’r enw ‘Her-straeon‘.
Bydd eich gwefan fro yn cynnal sesiwn syniadau a ‘sgrym straeon’ ym mis Ionawr. Chi fel pobol leol sy’n arwain y ffordd, felly cofiwch ymuno a chymryd rhan!
Mae sawl peth arall ar y gweill… ond tan hynny, daw amser i bawb gael rhywfaint o hoe, a rhoi’r sgrîn dan glo am ychydig.
Mwynhewch yr ŵyl yn saff, a blwyddyn newydd well i bob un!