Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc Eryri

Ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

Pnawn da o Rali CFfI Eryri!

Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.

Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.

18:28

? SEREMONI WOBRWYO ?

Cwpan T.O. Williams i’r unigolyn gorau gyda pheiriant

Yn fuddugol: Ianto Evans, CFfI Ysbyty Ifan

18:28

? SEREMONI WOBRWYO ?

Tarian Eryri am y cystadlaethau’n hysbysebu’r Rali

Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan

18:27

? SEREMONI WOBRWYO ?

Tarian Heulwen Haf Jones am y celf a chrefft

Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan

18:25

❄ Y trelar oer! ❄

Mae’r trelar yma’n newydd i CFfI Eryri diolch i grant gan Gyngor Gwynedd.

Mae hanner yr elw o hurio’r fan yma’n mynd yn syth yn ôl i’r mudiad, diolch i’r perchennog a’r cyn-aelod Huw Mackinnon.

Ac mae ganddo job pwysig IAWN pnawn yma – mae’n oeri’r ? ar gyfer y ddawns heno!

18:16

? SEREMONI WOBRWYO ?

Pawb yn aros yn eiddgar i Seremoni Wobrwyo Rali CFfI Eryri ar ôl diwrnod prysur iawn yma ar fferm Tai Hirion.

Pwy fydd ar frig y das eleni??

17:58

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Tynnu’r gelyn (merched)

1af: CFfI Caernarfon

2il: CFfI Ysbyty Ifan

3ydd: CFfI Y Rhiw

17:58

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Tynnu’r gelyn (iau)

1af: CFfI Llanrwst

2il: CFfI Dyffryn Madog

3ydd: CFfI Llanrwst

4ydd: CFfI Dyffryn Madog

16:48

Pawb yn y sir (bron) yn mwynhau’r gystadleuaeth tynnu’r gelyn ar fferm Tai Hirion y pnawn ma.

A phawb yn y mudiad (bron!) yn rhoi cynnig arni!

Tipyn o olygfa…

16:44

16:37

? CANLYNIAD! ?

Cystadleuaeth: Dawnsio

1af: CFfI Ysbyty Ifan

2il: CFfI Llanrwst

3ydd: CFfI Llangybi

4ydd: CFfI Dyffryn Nantlle

Beirniad: Catrin Mair Jones