‘Daw â lles i fywyd llan’

Gŵyl Fwyd Llanbed – cyfle i gydweithio â clonc360 i greu fideos posteri, a mwy…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Sion, Elen, Martha ac Ifan – Gohebwyr Bro clonc360 yng Ngŵyl Fwyd Llanbed

Gobeithio bod Bro360 wedi gallu cyfrannu at ‘ddod â lles i fywyd llan’ ddydd Sadwrn (27 Gorffennaf) gyda’r gweithgareddau ar ein stondin, ar y cyd â gwefan fro clonc360 yng Ngŵyl Fwyd Llanbed.

? mae fideo arbennig Gohebwyr Bro ifanc clonc360 o’r ŵyl ar y wefan fro…

? buodd tîm o bobol y papur bro yn cydweithio â Bro360 ac yn cael lot o sbort ar y stondin…

? cafodd dywediadau lleol eu dylunio a’u printio’n fyw ar bosteri a chrysau T a grëwyd yn arbennig i clonc360. Byddan nhw i’w gweld ar welydd ac o gwmpas y lle am flynyddoedd i ddod…

??????? mewnfudwr ifanc sy’n dechrau dysgu Cymraeg ac oedd yn ysu am gyfle i wneud rhywbeth er mwyn y gymdogaeth leol oedd y tu ôl i’r gweithgaredd printio. Mae e’n cymhathu!

Felly sdim angen bod yn ddigalon am ein cymunedau yng nghefn gwlad. ?

Roedd hi’n bleser gweld cymaint o bobol yn cyd-dynnu ac yn cefnogi yn Llanbed ddydd Sadwrn – cofiwch, ‘fe ddaw eto haul ar fryn; os na ddaw hade fe ddaw whyn‘ – man a man i ni feddwl yn gadarnhaol, fel Eirwyn Ponshân, glei!

Dau ddywediad lleol – a gafodd eu hargraffu’n fyw ar bosteri a chrysau T
Agoriad swyddogol yr ŵyl
Stondin Bro360 a clonc360 – lle buon ni’n argraffu crysau T a phosteri unigryw trwy’r dydd
James Loveday – y dyn tu ôl i’r dyluniad a’r gwaith argraffu
Perry yn gwisgo ei grys T mas yn Llanbed!