[…] Ia. Bydd modd i bawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif (dod yn ‘frodor‘) a chyhoeddi eitemau am bynciau amrywiol. Chi fel pobol leol sy’n gwybod orau be […]
“aelod o glwb neu gymdeithas” | “un o’r trigolion cysefin” | “cydwladwr”
Dyna 3 ystyr gwahanol i’r gair ‘brodor’ (GPC). A bellach, mae ystyr arall!
Er y bydd pawb (sydd â chysylltiad â’r we) yn gallu gweld a chlywed popeth fydd yn digwydd ar eich gwefannau bro newydd, bydd angen cofrestru fel BRODOR er mwyn rhannu eich stori, ychwanegu digwyddiad i’r calendr digidol a gwneud defnydd llawn o’r gwasanaeth.
Ydych chi am fod yn un o’r brodorion cynta ar rwydwaith 360.cymru?
Cewch amdani heddiw – dylsai gymryd llai na munud!
- Ewch i 360.cymru
- Pwyswch Ymuno
- Cofrestrwch trwy gyfrif Facebook neu Twitter, neu nodwch eich enw a’ch ebost a disgwyliwch i ebost gyrraedd (cofiwch checio eich ffolder rwtsh)
- Cliciwch ar y ddolen er mwyn gosod eich cyfrinair
Daw’r cyfan i’r amlwg, cam wrth gam, yn y fideo fach yma:
A dyna ni! Ry’ch chi’n frodor ac yn barod i gyfrannu eich stori gynta!
Mae’n ddyddiau cynnar wrth gwrs – ry’n ni’n dal i dyfu a datblygu’r rhwydwaith o wefannau bro, ac mae ambell i blip technegol yn siŵr o godi. Felly os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion, plîs cysylltwch â lowrijones@golwg.com.