Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd

Croeso i flog byw Bro360 – dilynwch ni gydol y dydd i weld hynt helynt pobol ifanc Arfon a Cheredigion.

14:50

14:05

CANLYNIAD!

Cystadleuaeth: Ensemble offerynnol

2il i Ysgol Llandwrog

 

Cystadleuaeth: Parti Unsain

3ydd i Ysgol Llandwrog!

 

Llongyfarchiadau, a diolch i’n gohebwyr bro, Gwion a Dafydd, am y newyddion!

14:03

Mae Bwca wedi bod yn cael eu ymarfer olaf bore ma cyn teithio lawr i Steddfod yr Urdd fory er mwyn chwarae ar y Llwyfan Perfformio am 3 o’r gloch.

Diolch Steff am y llun. Oes rhywun arall wrthi’n pacio i ddod lawr i’r Bae?

Rhowch wbod – #Bro360

12:10

Paratoi!

Parti Padarn yn ymarfer cyn y diwrnod mawr (Parti Unsain Bl6 ac iau).
Pob lwc fory!

11:48

11:10

CANLYNIAD!

Cystadleuaeth: Adolygu Ffilm

2il i Maelan Gwyn Prys o Ysgol Llandwrog

Crëodd Maelan ffilm ‘Pluen Eira’

Diolch i’n gohebwyr bro, Dafydd a Gwion o Ysgol Llandrwog, am ddod â’r newyddion yma i ni!

10:41

Dyma griw o Ysgol Llandwrog yn y rhagbrawf bore ’ma. Ac maent wedi cael llwyfan!
Pob lwc pnawn ’ma!

10:33